Ynni Cymunedol Cymru

Telerau Defnyddio

Telerau Defnyddio gwefan Ynni Cymunedol Cymru:

  • Derbyn y Telerau Defnyddio a’r Diwygiadau
  • Ein Gwasanaeth
  • Eich Cyfrifoldebau a Rhwymedigaethau Cofrestru
  • Polisi Preifatrwydd
  • Cofrestru Cyfrinair
  • Eich Ymddygiad
  • Cyflwyno Cynnwys ar y Wefan Hon
  • Gwasanaethau Trydydd Parti
  • Digolledu
  • Ymwrthod Gwarantiadau
  • Cyfyngiadau Atebolrwydd
  • Cadw Hawliau
  • Hysbysu am Dorri Hawlfraint
  • Cyfraith Gymwys
  • Gwybodaeth Amrywiol

Pob tro y byddwch yn defnyddio neu’n myned i’r wefan hon, rydych yn cytuno i fod yn rhwymedig i’r telerau hyn fel y’u diwygir o dro i dro gan hysbysu am hynny neu beidio. Hefyd, os ydych yn defnyddio gwasanaeth penodol ar neu drwy’r wefan hon, byddwch yn ddarostyngedig i unrhyw reolau neu ganllawiau sy’n gymwys i’r gwasanaethau hynny, a byddant yn cael eu hymgorffori drwy gyfeiriad yn y Telerau Defnyddio hyn. Gweler ein Polisi Preifatrwydd, a ymgorfforir drwy gyfeiriad yn y Telerau Defnyddio hyn.

Ar sail ‘Fel y Mae’ y darperir ein gwefan a’r gwasanaethau a ddarperir i chi ar a thrwy ein gwefan. Rydych yn cytuno bod perchnogion y wefan hon yn cadw’r hawl unigryw a gallant, ar unrhyw adeg, a heb eich hysbysu na bod yn atebol i chi, addasu neu ddiddymu’r wefan hon a’i gwasanaethau neu ddileu’r data a ddarperir gennych, dros dro neu’n barhaol. Ni fydd gennym unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd am brydlondeb, dilead, methiant storio, anghywirdeb, neu ddarparu unrhyw ddata neu wybodaeth yn amhriodol.

Ar gyfer unrhyw brosesau cofrestru ar ein gwefan, mae’n rhaid i chi gytuno i ddarparu gwybodaeth gywir yn ôl y gofyn, a’ch bod o leiaf yn dair ar ddeg (13) mlwydd oed neu’n hŷn. Wrth gofrestru, rydych yn cytuno’n llwyr â’n Telerau Defnyddio fel y’u diwygir gennym ni o dro i dro ac sydd ar gael yma. Mae data cofrestru ac unrhyw wybodaeth bersonol y gellir ei hadnabod y gallwn eu casglu yn ddarostyngedig i delerau ein Polisi Preifatrwydd.

Chi sy’n gyfrifol am gynnal cyfrinachedd unrhyw gyfrinair a roddir a chi fydd yn gyfrifol am bob defnydd drwy gofrestru a/neu fewngofnodi, p’un a bod hynny wedi ei awdurdodi gennych chi neu beidio. Rydych yn cytuno i’n hysbysu ar unwaith am unrhyw ddefnydd anawdurdodedig a wneir o’ch cofrestriad, cyfrif defnyddiwr neu gyfrinair. Rydych yn cytuno y bydd yr holl wybodaeth neu ddata o unrhyw fath, boed yn destun, meddalwedd, cod, cerddoriaeth neu sain, ffotograffau neu raffeg, fideo neu ddeunydd arall (“Cynnwys”), a ddarperir yn gyhoeddus neu’n breifat, yn gyfrifoldeb y person sy’n darparu’r Cynnwys neu’r person y defnyddir ei gyfrif defnyddiwr. Rydych yn cytuno y gallwch ddod i gysylltiad â Chynnwys sy’n annymunol neu’n dramgwyddus i chi ar ein gwefan. Ni fyddwn yn gyfrifol ar eich rhan mewn unrhyw ffordd am y Cynnwys sy’n ymddangos ar y wefan hon nac am unrhyw wall neu hepgoriad.

Rydych yn cytuno’n llwyr, drwy ddefnyddio’r wefan hon neu unrhyw wasanaeth a ddarperir, na fyddwch yn (a) darparu unrhyw Gynnwys nac yn ymddwyn mewn unrhyw ffordd sy’n anghyfreithlon, bygythiol, niweidiol, camdriniol, aflonyddus, stelcian, camweddus, difenwol, enllibus, aflednais, anweddus, tramgwyddus, annymunol, pornograffig, a ddyluniwyd i neu sydd yn amharu neu’n ymyrryd â’r wefan hon neu unrhyw wasanaeth a ddarperir, sydd wedi ei heintio â firws neu unrhyw reolwaith rhaglennu niweidiol neu andwyol, sy’n achosi atebolrwydd sifil neu droseddol, neu all dorri deddf leol, genedlaethol neu ryngwladol gymwys; (b) dynwared neu’n camliwio eich perthynas ag unrhyw berson neu endid, neu’n ffugio neu’n ceisio cuddio neu gamliwio unrhyw Gynnwys a ddarperir gennych chi mewn unrhyw ffordd arall; (c) casglu neu gywain unrhyw ddata am ddefnyddwyr eraill; (ch) darparu neu ddefnyddio’r wefan hon ac unrhyw Gynnwys neu wasanaeth mewn unrhyw fodd masnachol neu mewn unrhyw fodd fyddai’n cynnwys post sothach, sbam, llythyrau cadwyn, cynlluniau pyramid, neu unrhyw ddull arall o hysbysebu anawdurdodedig heb gael ein caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw; (d) darparu unrhyw Gynnwys allai achosi atebolrwydd sifil neu droseddol i ni neu allai olygu neu y gellid ystyried ei fod yn torri unrhyw ddeddf leol, genedlaethol neu ryngwladol, yn cynnwys ond nid yn gyfyngedig i ddeddfau sy’n gysylltiedig â hawlfraint, nod masnach, patent, neu gyfrinachau diwydiant.

Drwy ddarparu unrhyw Gynnwys ar ein gwefan: (a) rydych yn cytuno i roi i ni hawl a thrwydded fyd-eang, heb freindal, gwastadol, anghyfyngedig (yn cynnwys unrhyw hawliau moesol neu unrhyw hawl angenrheidiol arall) i ddangos, arddangos, ailgynhyrchu, addasu, diwygio, cyhoeddi, dosbarthu, perfformio, hyrwyddo, archifo, cyfieithu a chreu gweithiau a chasgliadau deilliannol, yn llwyr neu’n rhannol. Bydd y cyfryw drwyddedau’n gymwys mewn perthynas ag unrhyw ffurf, cyfrwng, technoleg sy’n hysbys neu a ddatblygir yn ddiweddarach; (b) rydych yn gwarantu ac yn honni bod gennych yr holl hawliau cyfreithiol, moesol ac fel arall allai fod yn angenrheidiol er mwyn rhoi’r drwydded i ni a nodir yn yr Adran 7 hon; (c) rydych yn cydnabod ac yn cytuno bod gennym yr hawl (ond nid ydym yn rhwymedig i hynny), yn ôl ein disgresiwn ein hunain, i wrthod cyhoeddi neu ddileu neu atal mynediad i unrhyw Gynnwys yr ydych yn ei ddarparu ar unrhyw adeg ac am unrhyw reswm, gan hysbysu am hynny neu beidio.

Rydych yn cytuno i’n hindemnio a’n digolledu ni, ein his-gwmnïau, cysylltiedigion, partïon cysylltiedig, swyddogion, cyfarwyddwyr, cyflogeion, asiantau, contractwyr annibynnol, hysbysebwyr, partneriaid a chyd frandwyr rhag unrhyw hawliad neu gais, yn cynnwys ffioedd cyfreithiol rhesymol, a allai unrhyw drydydd parti eu cyflwyno, sy’n ganlyniad i neu’n deillio o’ch ymddygiad mewn cysylltiad â’r wefan hon neu wasanaeth, y Cynnwys a ddarparwyd gennych, y torri’r Telerau Defnyddio y bu i chi ei gyflawni neu unrhyw dorri hawliau person neu barti arall.

Rydych yn deall ac yn cytuno bod eich defnydd o’r wefan hon ac unrhyw wasanaethau neu gynnwys a ddarperir (y “gwasanaeth”) ar gael ac yn cael ei ddarparu i chi ar eich risg eich hun. Fe’i darperir i chi “fel y mae” ac rydym yn ymwrthod ag unrhyw warant o unrhyw fath, a fynegir neu a awgrymir, yn cynnwys, ond ddim yn gyfyngedig i farchnadwyedd, addasrwydd i bwrpas penodol, ac anhresmasiad.’)

NID YDYM YN RHOI UNRHYW WARANT, A FYNEGIR NEU A AWGRYMIR, Y BYDD UNRHYW RAN O’R GWASANAETH YN DDI-DOR, DI WALL, DI FIRWS, PRYDLON, DIOGEL, CYWIR, DIBYNADWY, O UNRHYW ANSAWDD, NA BOD UNRHYW GYNNWYS YN DDIOGEL MEWN UNRHYW FODD AR GYFER LAWRLWYTHO. RYDYCH YN DEALL AC YN CYTUNO NAD YDYM NI NAC UNRHYW UN SY’N DARPARU’R GWASANAETH YN DARPARU CYNGOR PROFFESIYNOL O UNRHYW FATH A BOD DEFNYDDIO’R CYFRYW GYNGOR NEU UNRHYW WYBODAETH ARALL YN CAEL EI WNEUD AR EICH RISG EICH HUN YN LLWYR A HEB ATEBOLRWYDD AR EIN RHAN NI MEWN UNRHYW FODD. Efallai na fydd rhai awdurdodaethau yn caniatáu ymwrthod â gwarantau a awgrymir, ac efallai na fydd yr ymwrthodiad uchod yn gymwys i chi oherwydd ei fod yn gysylltiedig â gwarantau a awgrymir.

RYDYCH YN DELL AC YN CYTUNO’N LLWYR NA FYDDWN YN ATEBOL AM UNRHYW IAWNDAL UNIONGYRCHOL, ANUNIONGYRCHOL, ARBENNIG, CYSYLLTIEDIG, CANLYNIADOL NEU GOSBEDIGAETHOL, YN CYNNWYS OND NID YN GYFYNGEDIG I, IAWNDAL AM GOLLI ELW, EWYLLYS DA, DEFNYDD, DATA NEU UNRHYW GOLLED ANGHYFFWRDD ARALL (HYD YN OED OS EIN HYSBYSWYD YNGLŶN Â PHOSIBILRWYDD IAWNDAL O’R FATH), SY’N GANLYNIAD I NEU’N DEILLIO O (I) DDEFNYDDIO NEU FETHU DEFNYDDIO’R GWASANAETH (II) COST CAFFAEL NWYDDAU A /NEU WASANAETHAU CYFNEWID O GANLYNIAD I UNRHYW DRAFODYN A WNAETHPWYD DRWY’R GWASANAETH, (III) MYNEDIAD AWAWDURDODEDIG I NEU NEWIDIAD I DROSGLWYDDO EICH DATA, (IV) DATGANIADAU NEU YMDDYGIAD UNRHYW DRYDYDD PARTI AR Y GWASANAETH, NEU (V) UNRHYW FATER ARALL MEWN PERTHYNAS Â’R GWASANAETH.

Mewn rhai awdurdodaethau ni chaniateir cyfyngu atebolrwydd, ac felly efallai nad yw cyfyngiadau o’r fath yn gymwys i chi. Rydym yn cadw ein holl hawliau, yn cynnwys ond nid yn gyfyngedig i unrhyw hawlfraint a phob hawlfraint, nod masnach, patent, cyfrinachau diwydiant, ac unrhyw hawl perchnogol sydd gennym efallai ar ein gwefan, ei chynnwys, a’r nwyddau a’r gwasanaethau a ellir eu darparu. Bydd angen caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gennym er mwyn defnyddio ein hawliau a’n heiddo. Nid ydym yn rhoi i chi unrhyw drwyddedau na hawliau a fynegir neu a awgrymir drwy gynnig gwasanaethau i chi ac ni fydd gennych unrhyw hawliau i wneud unrhyw ddefnydd masnachol o’n gwefan neu wasanaeth heb gael caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gennym.

Os ydych yn credu y defnyddiwyd eich eiddo mewn unrhyw ffordd y gellir ystyried bod hynny’n torri hawlfraint neu’n torri eich hawliau eiddo deallusol, gellir cysylltu â’n hasiant hawlfraint yn y cyfeiriad canlynol: mail at dri dot org dot uk

Rydych yn cytuno bod y Telerau Defnyddio hyn ac unrhyw anghydfod sy’n deillio o’ch defnydd o’r wefan hon neu ein cynhyrchion neu ein gwasanaethau yn cael eu rheoli a’u dehongli yn unol â’r deddfau lleol ble lleolir pencadlys perchennog y wefan hon, heb ystyried eu darpariaethau mewn perthynas â chroesgyffyrddiad cyfreithiau. Drwy gofrestru neu ddefnyddio’r wefan hon a’r gwasanaeth rydych yn cydsynio â ac yn ymostwng i awdurdodaeth a lleoliad y sir neu ddinas ble lleolir pencadlys perchennog y wefan hon.

Os bydd y Telerau Defnyddio hyn yn gwrthdaro ag unrhyw ddeddf y byddai unrhyw lys ag awdurdodaeth ar y partïon yn ystyried y byddai’r ddarpariaeth yn annilys oddi tani, byddai unrhyw ddarpariaeth yn cael ei dehongli er mwyn adlewyrchu bwriadau gwreiddiol y partion yn unol â chyfraith gymwys, a bydd gweddill y Telerau Defnyddio hyn yn parhau i fod yn ddilys a chyflawn; (ii) Ni ystyrir bod methiant unrhyw barti i fynnu unrhyw hawl o dan y Telerau Defnyddio hyn yn golygu bod y parti hwnnw yn ildio unrhyw hawl a bydd yr hawl hwnnw yn parhau â’r un grym ac effaith; (iii) Rydych yn cytuno, heb ystyriaeth i unrhyw statud neu ddeddf i’r gwrthwyneb, bod rhaid ffeilio unrhyw hawliad neu achos sy’n deillio o’r wefan hon neu ei gwasanaethau o fewn un (1) mlynedd ar ôl i’r cyfryw hawliad neu achos godi neu bydd yr hawliad wedi ei wahardd am byth; (iv) Gallwn aseinio ein hawliau a’n rhwymedigaethau o dan y Telerau Defnyddio hyn a byddwn yn rhydd o unrhyw rwymedigaeth arall.

Tanysgrifiwch am ein Cylchlythyr

I fod y cyntaf i glywed ein newyddion & cynigion diweddaraf, llenwch y ffurflen isod: