Pan fyddwch yn gofyn am wybodaeth gennym ni, rydym yn cael gwybodaeth amdanoch chi. Mae’r datganiad polisi preifatrwydd hwn yn egluro sut yr ydym yn gofalu am y wybodaeth honno a beth yr ydym yn ei wneud gyda hi.
Mae’n ddyletswydd gyfreithiol arnom o dan y Ddeddf Diogelu Data i atal y wybodaeth amdanoch rhag cyrraedd y dwylo anghywir. Mae’n rhaid i ni hefyd sicrhau bod y data a ddelir gennym yn gywir, digonol, perthnasol ac nad yw’n ormodol.
Mae’n bwysig eich bod yn darllen drwy’r polisi preifatrwydd hwn, oherwydd drwy ddefnyddio ein gwefan rydych yn arwyddo eich bod yn cytuno â’i thelerau.
Fel rheol, mae’r unig wybodaeth yr ydym yn ei dal yn dod yn uniongyrchol oddi wrthych chi. Pryd bynnag yr ydym yn cael gwybodaeth gennych, byddwn yn egluro pa wybodaeth sydd ei hangen arnom er mwyn darparu’r wybodaeth, gwasanaeth neu’r nwyddau sydd ei angen arnoch chi. Nid oes raid i chi roi unrhyw wybodaeth ychwanegol i ni oni bai eich bod yn dewis gwneud hynny. Rydym yn storio eich gwybodaeth yn ddiogel ar ein systemau cyfrifiadurol, rydym yn cyfyngu mynediad i rai sydd angen gwybod yn unig, ac rydym yn hyfforddi ein staff ynglŷn â thrin gwybodaeth yn ddiogel.
Ar brydiau, drwy Google Analytics, rydym yn casglu gwybodaeth anhysbys sy’n ein helpu i wella’r ffordd mae ein gwefan yn gweithio.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i archwilio sut mae pobl yn rhyngweithio gyda’n gwefan, gan gasglu gwybodaeth drwy ddefnyddio cwcis. Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i wella’r ffordd mae ein gwefan yn gweithio a’r ffordd yr ydym yn gwneud pethau ar-lein. I gael gwybodaeth am sut yr ydym yn gwneud hynny, darllenwch y wybodaeth yr ydym yn ei chynnig ynglŷn â chwcis.
Ni allwn, ac ni fyddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon er mwyn eich adnabod chi.
Yn ogystal â defnyddio cwcis i ddarparu gwell profiad o’n gwefan, rydym yn eu defnyddio i gefnogi ein hymdrechion marchnata ar-lein. Mae gennym dudalen ar wahân sy’n rhoi manylion penodol am y cwcis yr ydym yn eu defnyddio ar y dudalen hon, fel y gallwch wneud penderfyniad gwybodus ynglŷn â’u derbyn neu beidio.
Hoffem gysylltu â chi yn y dyfodol i’ch hysbysu am wasanaethau eraill yr ydym yn eu darparu a digwyddiadau y byddwn yn eu cynnal, er enghraifft, mewn cylchlythyr e-bost. Mae gennych yr hawl i ofyn i ni beidio â chysylltu â chi yn y modd yma. Byddwn bob amser yn amcanu at ddarparu dull syml i chi allu eithrio o hyn. Gallwch hefyd gysylltu â ni yn uniongyrchol ar unrhyw adeg i ddweud wrthym am beidio anfon unrhyw ddeunydd marchnata atoch yn y dyfodol.
Mae gennych hawl i dderbyn copi o’r holl wybodaeth yr ydym yn ei chadw amdanoch (ac eithrio ychydig iawn o bethau y byddwn efallai’n rhwymedig i beidio’u datgelu oherwydd eu bod yn ymwneud â phobl eraill yn ogystal â chi). I gael copi, ysgrifennwch at y Swyddog Diogelu Data yn info@communityenergywales.org.uk. Rydym yn amcanu at ymateb cyn gynted ag y gallwn, ac ym mhob achos, byddwn bob amser yn ymateb o fewn 40 diwrnod, sef y mwyafswm cyfreithiol o ddyddiau.
Rydym yn cadw’r hawl i newid ein polisi preifatrwydd ar unrhyw adeg, felly fe’ch cynghorir i’w wirio’n rheolaidd. Am unrhyw wybodaeth ychwanegol, e-bostiwch ni at info@communityenergywales.org.uk.
I fod y cyntaf i glywed ein newyddion & cynigion diweddaraf, llenwch y ffurflen isod: