Ynni Cymunedol Cymru

Y Tim

Ben Ferguson

Image

Cyd-gyfarwyddwr Gweithredol

Mae gan Ben Ferguson dros ddegawd o brofiad ym maes ynni cymunedol, ac wedi bod yn gyfarwyddwr ar, ynghyd â sefydlu prosiect Ynni Sir Gâr – a gosod y tyrbin cymunedol cyntaf o dan berchnogaeth gymunedol yn y sir – a Ynni Cymunedol Sir Benfro. Gyda gwybodaeth dechnegol ddofn am newid hinsawdd, effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy ar bob raddfa, mae Ben wedi gweithio ac ystod o rhanddeilwyr – o sefydliadau cymunedol i gyrff statudol, busnesau lleol a datblygwyr rhyngwladol.

Leanne Wood

Image

Cyd-gyfarwyddwr Gweithredol

Leanne Wood oedd arweinydd Plaid Cymru o 2012-2018, a’r fenyw gyntaf i gynrhychioli’r Rhondda yn y Senedd, lle’r oedd ganddi gyfrifoldeb dros bolisïau Cynaliadwyedd, Amgylchedd, Cyfiawnder Cymdeithasol a Thai y blaid. Yn ymgyrchydd dros yr hinsawdd a chyfiawnder cymdeithasol ers dros 25 mlynedd, mae Leanne bellach yn cymryd rhan yn y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, ac yn cynnal podlediad sy’n trafod gwleidyddiaeth Gymreig, democratiaeth a thegwch.

Dyfan Lewis

Dyfan headshot

Swyddog Aelodaeth a Chyfathrebu

Ymunodd Dyfan Lewis â thîm Ynni Cymunedol Cymru ym mis Gorffennaf 2020, ac mae wedi’i leoli yn Nghaerdydd, y ddinas symudodd iddo er mwyn astudio Cymraeg yn y brifysgol. Cyn cymryd y swydd hon, roedd ganddo gefndir mewn cyfathrebu, cyfieithu ac ysgrifennu, gan weithio i Canolfan Mileniwm Cymru a sefydlu ei wasg ei hun, Gwasg Pelydr. Mae’r swydd hon wedi tanio ei ddiddordeb mewn datblygu cymunedol ac mae ganddo ddiddordeb mewn rhannu straeon o brosiectau ynni cymunedol ar lawr gwlad.

Cyswllt: dyfan@communityenergywales.org.uk

Sioned Williams

Sioned

Swyddog Polisi ac Ymchwil

Daeth Sioned Williams yn Swyddog Polisi ac Ymchwil ar gyfer Ynni Cymunedol Cymru ym mis Ionawr 2022, ac mae’n byw yng ngogledd Cymru. Mae gan Sioned ddiddordeb mewn pynciau amgylcheddol a newid hisawdd. Datblygodd y diddordeb hwn wrth iddi astudio Daearyddiaeth Ffisegol yn Aberystwyth ac wedyn MSc mewn Datblygu Cynaliadwy a Newid Hinsawdd ym Mhrifysgol Exeter. Fe wnaeth Sioned gwblhau PhD mewn Sosieleg a Pholisi ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar, gan weithio â phartneriaid o fewn prosiectau ynni cymunedol yng Nghymru. Mae gan Sioned ddiddordeb penodol mewn archwilio yr effeithiau cymdeithasol sy’n codi o ynni cymunedol, datblygu cynaliadwy a pholisi ynni.

Cyswllt: Sioned@communityenergywales.org.uk

Izzy Mcleod

Pride month end 1

Swyddog Datblygu a Gweithredu

Ymunodd Izzy McLeod ag Ynni Cymunedol Cymru yn Gorffennaf 2022. Mae’n byw yng Nghaerdydd lle cafodd eu magu. Dychwelon nhw’n ôl i Gaerdydd er mwyn astudio gradd meistr mewn ynni andewyddadwy. Mae ganddynt gefndir mewn fasiwn, amgylcheddaeth groestoriadol, cyfiawnder hinsawdd, ac yn gweithio fel cyfathrebwr hinsawdd ynghyd â’r rôl hwn. Maent yn gweld ynni cymunedol fel dull i fynd i’r afael â nifer o bynciau cyfiawnder hinsawdd gyda’i gilydd, ac yn edrych ymlaen at helpu i dyfu a chefnogi ynni cymunedol yng Nghymru.

Cyswllt: izzy@communityenergywales.org.uk

Tanysgrifiwch am ein Cylchlythyr

I fod y cyntaf i glywed ein newyddion & cynigion diweddaraf, llenwch y ffurflen isod: