Ynni Cymunedol Cymru

Cyfarwyddwyr

Gareth clubb

Gareth Clubb

Mae Gareth wedi gweithio yn y sector cynaliadwyedd yng Nghymru am bron ugain mlynedd, ac wedi bod yn eiriolwr dros ynni adnewyddadwy, ac yn enwedig ynni cymunedol. Mae wedi gweithio fel cyfarwyddwr i Gymdeithas Eryri a Chyfeillion y Ddaear, ynghyd â fel Prif Weithredwr i Blaid Cymru. Bellach mae Gareth yn Gyfarwyddwr ar WWF Cymru.

Gareth Gwefan

Gareth Cemlyn Jones

Ganwyd Gareth yn Ynys Môn, ac ar ôl graddio cafodd yrfa yn y diwydiant cynhyrchu trydan, yn bennaf ar osodiadau hydro. Gweithiodd ar adeiladu ar y safle, rheoli prosiect ynghyd â bod yn gyfarwyddwr technegol a chyfarwyddwr prosiect ar brosiectau rhyngwladol, yn cynnwys gweithio dramor. Mae’n Beiriannydd Siartredig, ac yn Gymrawd o Sefydliad Peirianwyr Mecanyddol. Bellach wedi hanner-ymddeol mae’n gadeirydd ar Ynni Ogwen, cynllun hydro ym Methesda.

Mel Gwefan

Meleri Davies

Meleri Davies yw un o sylfaenwyr Ynni Ogwen a mae’n parhau i fod yn gyfarwyddwr gweithgar ar fwrdd Ynni Ogwen. Yn ei swydd bob dydd, mae’n Brif Swyddog Partneriaeth Ogwen, menter gymdeithasol sy’n datblygu prosiectau economaidd, amgylcheddol, diwylliannol a chymunedol yn Nyffryn Ogwen. Mae’r prosiectau hyn yn cynnwys sefydlu Siop Ogwen, trosglwyddo asedau megis Llyfrgell Bethesda, datblygu cynllun hydro cymunedol Ynni Ogwen, ac yn fwy diweddar, prosiect Dyffryn Gwyrdd a phrosiectau cludiant cymunedol a thwristiaeth gynaladwy. Mae hi hefyd yn aelod o fwrdd llywio Cyd Ynni a bwrdd mudiad GwyrddNi i ddatblygu cynulliadau cymunedol ar yr hinsawdd mewn 6 ardal o Wynedd.

Mae cynaladwyedd yn linyn arian trwy ei gwaith ac enillodd Meleri ddwy wobr - Gwobr Pencampwr Cynaliadwyedd Cynnal Cymru a Gwobr Arloeswr Ynni Gwyrdd yng Ngwobrau Regen UK yn 2019. Mewn cyfnod byr, mae Partneriaeth Ogwen wedi tyfu i fod yn fenter gymdeithasol arloesol gyda’r economi sylfaenol, atgyfnerthu cymunedol a datblygu cynaliadwy yn greiddiol i bopeth mae’n gwneud. Mae Meleri hefyd yn Gyfarwyddwr gwirfoddol gyda Siop Ogwen ac yn gyn gyfarwyddwr gyda Cwmni Tabernacl Bethesda Cyf sy’n berchen ar Neuadd Ogwen a’r Fic ym Methesda. Mae’n angerddol dros yr iaith a’r diwylliant, yn arbennig felly yng nghyd-destun mentergarwch gymunedol mewn cymunedau Cymraeg.

Jeremy thorp

Jeremy Thorp

Drwy ei waith gyda Sharenergy, mae Jeremy wedi bod yn rhan o sawl prosiect ynni cymunedol ar draws Cymru a Lloegr. Bu’n canolbwyntio yn benodol ar hyrwyddo defnydd o’r Cymdeithasau Cofrestredig a chodi ymwybyddiaeth ohonyn nhw, cynllunio ariannol, codi arian drwy gyfranddaliadau cymunedol a chofrestru prosiectau ar gyfer y Tariff Bwydo i Mewn drwy OFGEM. Rhan arall o’i waith oedd rheoli a gweinyddu agweddau eraill o gynlluniau gan gynnwys cael caniatâd cynllunio a thrwyddedau amgylcheddol, cael prydlesi gan dirfeddianwyr a rheoli cyfnod datblygu’r prosiect.

Richard clay

Richard Clay

“Rydw i’n economegydd trwy hyfforddiant ac wedi gweithio yn y sector ynni ers 2000. Roeddwn yn gweithio i Ofgem am fwy na degawd, yn bennaf mewn rolau datblygu polisi ar rwydweithiau ynni, ond roeddwn hefyd yn gysylltiedig â rhai mentrau dylunio marchnad trydan allweddol. Yn ogystal â hynny, roeddwn yn ffodus i arwain y tîm ‘Rhwymedigaeth Adnewyddadwy’ am ddwy flynedd yng nghanol y 2000au, a dyma’r lle cyntaf i mi ymwneud yn uniongyrchol â’r diwydiant ynni adnewyddadwy - a heb edrych yn ôl ers hynny! Ymunais â Stad Y Goron yn 2011, ac ar hyn o bryd rwy’n arwain ar bolisi ynni a rheoleiddio yn ein busnes, yn bennaf o ran defnydd gwynt ar y môr.

Yn y rôl hon, rydw i’n ymgysylltu â’r Llywodraeth, cyrff rheoleiddio a diwydiant i ddeall yr amgylchedd polisi a sut yw’r ffordd orau i’w ddatblygu. Er bod y byd egni cymunedol yn gymharol newydd i mi, mae gen i gred gadarn bod ehangu cyfranogiad a pherchnogaeth cymunedau yn ffordd hanfodol o sicrhau bod pawb yn ymgysylltu â ni, a cymeryd rhan mewn newid hinsawdd. Mae gwaith CEW yn hanfodol i hyn yng Nghymru ac rwy’n awyddys iawn i fod yn rhan o’r gwaith maent yn gwneud!”

Cyrene

Cyrene Dominguez

Mae Cyrene wedi bod yn gweithio yn y sector ynni cymunedol ers deng mlynedd, a gyda nifer o flynyddoedd o brofiad mewn pwyntiau gwefru a isadeiledd technegol ar gyfer cynghorau a chymunedau. Ar hyn o bryd mae Cyrene yn gweithio i TrydaNi fel Rheolwr Gweithredu Clybiau Ceir a Pwyntiau Gwefru. Mae ganddi brofiad o ddylunio graffeg a dylunio gwefannau, ynghyd â darlunio digidol a brandio cynnyrch.

Dan mccallum

Dan McCallum

Mae Dan yn un o sefydlwyr Awel Aman Tawe ac yn gyfrifol am waith beunyddiol y mudiad. Mae ganddo radd mewn hanes modern o Brifysgol Rhydychen. Mae ei brofiad gwaith yn cynnwys dwy flynedd o ddysgu yn Sudan, pedair blynedd yn gyfarwyddwr Cynllun Ysgoloriaeth Ffoaduriaid Eritreaidd – cynllun a sefydlodd fel elusen gofrestredig, dwy flynedd yn Gydlynydd Cynllun i Oxfam yn gweithio yn y rhan o Gwrdistan sydd yn Irac a dwy flynedd fel Rheolwr i’r Grŵp Hawliau Lleiafrifoedd yn Affrica a’r Dwyrain Canol. Gweithiodd i Fenter Dyffryn Aman am ddwy flynedd yn rheoli Fforestwr, prosiect coetiroedd cynaladwy.

Yn 2007 bu i Dan gyrraedd rownd derfynol Gwobrau Ernst yng nghategori Entrepreneur Ifanc y Flwyddyn. Ef hefyd yw’r esiampl mentergarwch ar brosiect Dynamo Llywodraeth Cymru lle mae’n rhoi cyflwyniadau rheolaidd mewn ysgolion a chynadleddau Addysg Bellach. Mae swydd Dan wedi ei ariannu gan gynllun Ynni’r Fro Llywodraeth Cymru – cynllun sy’n defnyddio Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd i gynnig benthyciadau a chymorth grant i fentrau cymdeithasol ynghyd â chyngor annibynnol, rhad ac am ddim fel modd o sefydlu mentrau ynni adnewyddol, cymunedol ar draws Cymru. Fel rhan o’i swydd mae’n cynghori grwpiau cymunedol eraill yn ne Cymru ar brosiectau dŵr a thrydan.

USER SCOPED TEMP DATA MSGR PHOTO FOR UPLOAD 1586974107650~3

Oriel Price

Mae Oriel yn rheolwr prosiect dwyieithog sydd wedi gweithredu ar lefel cyfrif uwch gyda gallu profedig i ddatblygu a gweithredu prosiectau strategol manwl. Ar ôl dechrau ei gyrfa fel newyddiadurwr gwleidyddol BBC Cymru, mae hi wedi gweithio o fewn Llywodraeth Cymru ac i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gyda ffocws penodol ar ddatblygu cynaliadwy ac ynni, mae hi wedi arwain rhaglenni amlddisgyblaethol yn y DU ac yn Rhyngwladol. Fel daearegwr amgylcheddol, gyda diddordeb parhaus mewn gwneud penderfyniadau cynaliadwy a busnes sy’n gymdeithasol gyfrifol, mae hi’n dod ag arbenigedd penodol i’r sectorau datblygu cynaliadwy, seilwaith ar raddfa fawr, ynni ac adfywio. Yn cynnwys rhaglenni newid ymddygiad. Ymuno â Tidal Lagoon Power Ltd yn 2013, yn gyfrifol am ddarparu a rheoli strategaethau materion cyhoeddus ac ymgysylltu yng Nghymru. Mae ganddi ddealltwriaeth fanwl o sut mae llywodraeth genedlaethol a lleol yn gweithio yng Nghymru, y DU ac ar Lefel Ewropeaidd. Yn fwy diweddar mae hi wedi gweithio’n weithredol fel Uwch Swyddog Ynni UKAEE a thuag at weithredu safon System Rheoli Amgylcheddol ISO 14001 (EMS). Mae Oriel yn croesawu’n gynnes y cyfle i gyfrannu’n rhagweithiol at ddyfodol ynni cymunedol ar yr adeg drawsnewid hon. Mae gan ynni cymunedol ran enfawr i’w chwarae yng nghymysgedd datgarboneiddio Cymru yn y dyfodol o dechnolegau ynni - Buddsoddi a chyflawni penderfyniadau sy’n cynrychioli’r amgylcheddau a’r anghenion unigryw sydd wrth wraidd y gymuned leol yn llwyddiannus. Mae gwaith pellach yn hanfodol i gydnabod buddion posibl cynhyrchu ynni cymunedol lleol, a bod y system statudol gyfredol sy’n cynnwys Llywodraeth Cymru yn ogystal ag awdurdodau lleol, yn cydnabod yr heriau, yn cael eu hysbysu’n rheolaidd ac yn ymgysylltu â’r sector ynni cymunedol lleol.

Alun Jones 584x584

Alun Jones

Mae Alun wedi bod yn gweithio i’r WCVA am 11 mlynedd bellach, ac yn Bennaeth Buddsoddi Cymdeithasol erbyn hyn. Mae ganddo gefndir mewn bancio masnachol a phrofiad mewn ariannu prosiectau ynni, ariannu tyrbinau gwynt a phwerdai anerobig. Un o’i brosiectau ynni cymunedol cyntaf oedd i gefnogi gosod 100+ o baneli solar ar dai. Am nifer o flynyddoedd, gweithiodd yn cefnogi Energy Savings Trust ar eu prosiect Ynni Lleol i Llywodraeth Cymru, darparu goruchwyliaeth a pharatoi ceisiadau am arian gan Banc Datblygu Cymru.

Tanysgrifiwch am ein Cylchlythyr

I fod y cyntaf i glywed ein newyddion & cynigion diweddaraf, llenwch y ffurflen isod: