Ynni Cymunedol Cymru

RhanNi

Mae RhanNi yn fudiad ar gyfer pobl sydd eisiau cefnogi Ynni Cymunedol yng Nghymru.

Ydych chi eisiau gwella eich cymuned?

Ydych chi’n poeni am ein planed a’n hamgylchedd?

Ydych chi eisiau adeiladu asedau cymunedol adnewyddadwy yng Nghymru?

Beth yw RhanNi?

Rydym am weld system ynni sydd wedi’i harwain gan y gymuned, sy’n darparu budd cymunedol, sy’n lân, yn deg a chyda phobl wrth ei chraidd.

Drwy ymuno â RhanNi, byddwch chi’n rhan o lais torfol sy’n mynnu gweld y newid hwn.

Gwneud ein rhan

Dewch i fod yn rhan o fudiad RhanNi.

Byddwch yn cael diweddariadau ar sut fedrwch chi weithredu i gefnogi twf ynni cymunedol, nid-er-elw.

Gallwch gymryd rhan mewn prosiectau ynni cymunedol lleol a helpu siapio eu dyfodol.

Derbyn gwybodaeth am weithgorau amrywiol Ynni Cymunedol Cymru a chymryd rhan ynddynt.

Bydd RhanNi yn eich diweddaru gyda’r cyfleoedd diweddaraf i fuddsoddi mewn prosiectau ynni cymunedol – gan roi arian yn ôl am eich buddsoddiad a’r cyfle i gefnogi’n uniongyrchol gymunedau sy’n arloesi yng Nghymru.

Rydym yn fudiad o bobl sydd yn cydweithio i wireddu potensial a chryfhau ein cymunedau, mynd i’r afael â newid hinsawdd a chreu system ynni decach.

Ymunwch â RhanNi.

Cwm arian 12

Tanysgrifiwch am ein Cylchlythyr

I fod y cyntaf i glywed ein newyddion & cynigion diweddaraf, llenwch y ffurflen isod: