Lleoliad: Yr Hen Lyfrgell, Yr Aes, Caerdydd CF10 1BH
Dyddiad: 6 Mawrth 2019
Amser: 12.00-17.00
Cost: Am ddim
Wrth inni symud tuag at system ynni sy’n glyfrach ac yn fwy datganolog, mae hi’n aml yn hawdd inni anghofio am yr hyn rydym ni eisoes wedi’i gyflawni a’r heriau sydd wedi ein hwynebu ar hyd y daith. Mae’r digwyddiad hwn, dan ofal Western Power Distribution a Regen, yn ymwneud â dathlu’r cyraeddiadau hynny a chydnabod eu manteision a’r hyn rydym ni wedi’i ddysgu wrth inni barhau i edrych ar ddyfodol arloesedd a chydweithio.
Byddwn ni’n clywed gan grwpiau ynni cymunedol, fel chi, sydd wedi arbrofi a llwyddo gyda phrosiectau diweddar ac yn rhannu’r hyn sydd wedi’i ddysgu o’u hymdrechion. Byddwn ni yna’n gofyn beth sydd nesaf? Beth fydd yn digwydd i ynni cymunedol yn y dyfodol a sut allwn ni wneud y gorau o’r cyfleoedd sydd ar gael inni? Rydym ni wedi gweld datblygiadau newydd mewn cerbydau trydan, cyflenwad lleol, marchnad hyblyg a storfa batri. Mae’r rhain i gyd yn cynnig cyfleoedd cyffrous am wybodaeth newydd, cyfleoedd cydweithio, arloesedd a chyswllt ac ymrwymiad gwell.
Gall ynni cymunedol chwarae rhan hanfodol yn ein systemau ynni datganoledig yn y dyfodol. Bwriad y digwyddiadau hyn ydy cael ein hysbrydoli gan grwpiau cymunedol eraill, dysgu gyda’n gilydd, bod yn rhan o’r newidiadau yn ein system ynni a chreu rhwydweithiau newydd i’ch helpu chi gyrraedd y nodau rydych chi wedi’u gosod ar gyfer eich grwpiau ynni cymunedol.
...Yn ôl i'r rhestr.
I fod y cyntaf i glywed ein newyddion & cynigion diweddaraf, llenwch y ffurflen isod: