Ynni Cymunedol Cymru

Ynni Cymunedol Cymru'n Ymateb i Gyhoeddiad Llywodraeth y DU

Ynni Cymunedol Cymru’n Ymateb i Gyhoeddiad Llywodraeth y DU

Mae Ynni Cymunedol Cymru wedi mynegi siom ac anghrediniaeth am gyhoeddiad Llywodraeth y DU i greu cronfa ynni cymunedol i Loegr yn unig ar ôl iddynt waredu gwelliannau er budd cymunedol i’w Bil Ynni. Byddai’r gwelliannau hyn wedi galluogi masnachu ynni lleol, sy’n allweddol i dorri biliau a sicrhau i ni bontio’n gyfiawn at sero net drwy hybu twf ynni cymunedol.

Dywedodd Cyd-Gyfarwyddwr Ynni Cymunedol Cymru Leanne Wood a Ben Ferguson:

“Mae pontio’n gyfiawn - sef yr hyn y mae llywodraethau’n dweud y maen nhw eisiau ei weld, ddim yn bosib os nad yw cymunedau lleol yn gallu gwerthu’r ynni maen nhw’n eu cynhyrchu i gwsmeriaid lleol. Mae gwerthu ynni’n lleol yn darparu nifer o fuddion, yn cynnwys lleihau costiau a phrisiau, buddsoddiad yn ôl i mewn i gymunedau, newid ymddygiad sy’n arwain at leihad mewn defnydd ynni, a thyfu’r sector ynni cymunedol. Mae hyn oll yn meddwl rhagor o asedau ynni cymunedol i’r wlad. Mae gohirio’r gallu i werthu’n lleol yn ergyd drom i’r ymdrechion i bontioat system ynni cyfiawn.

Yn lle hyn, maent wedi darparu £10 miliwn dros dwy flynedd i ariannu astudiaethau dichonoldeb a chynlluniau ynni cymunedol newydd yn Lloegr yn unig. Er bod y grym i alluogi masnachu lleol yn nwylo San Steffan, a bod y methiant i weithredu ar hyn yn meddwl bydd pobl yn talu mwy am eu prisiau ynni yn yr hir dymor, maent wedi methu darparu cefnogaeth i’r sector ynni cymunedol yng Nghymru a’r Alban. Rydym yn gobeithio’r gorau i’n cydweithwyr yn Lloegr ac yn cydnabod y byddant yn croesawu’r gronfa newydd hon, mae’n gynnig tila o gymharu â’r cyfleoedd y gallai cymunedau eu cael o ddegawdau o fudd drwy fasnachu lleol.

“Mae gweithredoedd Llywodraeth y DU yn cyferbynnu’n llwyr gyda Llywodraeth Cymru, sy’n haeddu cael eu canmol am y gefnogaeth gyson a chryf i gymunedau arwain ar ymrwymiadau i gyrraedd allyriadau sero net.

“Mae’r ewyllys da a’r gefnogaeth ymarferol sydd ar gael i’r sector ynni cymunedol o Lywodraeth Cymru, ynghyd â’i chytundeb cydweithredu gyda Phlaid Cymru, a’r addewid i greu Ynni Cymru yn cyferbynnu’n llwyr gyda datganiad diweddaraf Llywodraeth y DU.

“I YCC, mae’r datganiad hwn yn meddwl bod rhaid cwestiynnu ymrwymiad San Steffan i gyfiawnder ac yn dangos methiant i gefnogi pobl leol sydd eisiau amddiffyn eu hunain yn wyneb natur anwadal y farchnad ynni. Gofynnwn ydy’r broses REMA (Review of Electricity Marketing Arrangements) yn un sy’n credu mewn pontio’n gyfiawn at system ynni sero net? Os felly, mae angen i’w ymgynghori fod yn gynhwysol o’r sector ynni cymunedol, cyflym, a chyda gweithredu yn rhan ganolog ohono - yn debyg i’r dull wnaeth Llywodraeth Cymru gynnal ei harchwiliad dwfn i ynni adnewyddadwy.”

Tanysgrifiwch am ein Cylchlythyr

I fod y cyntaf i glywed ein newyddion & cynigion diweddaraf, llenwch y ffurflen isod: