Ynni Cymunedol Cymru

Ymestyn Dyddiad Cau - Swydd Aelodaeth a Gweinyddu

Rydym wedi ymestyn ein dyddiad cau ar gyfer Swyddog Aelodaeth a Gweinyddu dwyieithog.

Ydych chi’n meddwl yn greadigol, yn datrys problemau, yn drefnus ac yn dda gyda phobl?

Ydych chi’n pryderu am yr argyfwng hinsawdd, ac ydych chi’n awyddus i wneud rhywbeth ymarferol i fynd i’r afael â’r peth?

Ydych chi’n gweld y grym sy’n bodoli yng nghymunedau Cymru?

Gall hon fod yn swydd sy’n rhoi cyfle i chi ymuno â’r maes ynni cymunedol adnewyddadwy yng Nghymru sy’n gwenud gwahaniaeth i bobl, cymunedau a’r blaned.

Mae boddhad mewn swydd yn bwysig, a bydd y swydd hon yn rhoi cyfle i chi wneud cyfraniad cadarnhaol i’r ymdrechion i wella bywydau pobl yng Nghymru drwy ddulliau cynaliadwy.

Darllenwch ragor am y swydd, drwy lawrlwytho’r swydd ddisgrifiad yma: Swyddog Aelodaeth a Gweinyddu Dwyieithog

Anfonwch CV a Llythyr Eglurhaol at dyfan@communityenergywales.org.uk i ymgeisio.

Dyddiad Cau: 24/10/22

Tanysgrifiwch am ein Cylchlythyr

I fod y cyntaf i glywed ein newyddion & cynigion diweddaraf, llenwch y ffurflen isod: