Cynhelir Wythnos Wyrdd Prydain Fawr rhwng 15 a 19 Hydref er mwyn hyrwyddo cyfleoedd y symudiad byd-eang i hybu twf economaidd glanach, yn ogystal â’r hyn y mae’r DU yn ei wneud i leihau newid yn yr hinsawdd fel rhan o’r Her Twf Glân o dan ein Strategaeth Ddiwydiannol fodern.
Bydd Wythnos Wyrdd Prydain Fawr yn wythnos o ddigwyddiadau, cyhoeddiadau a gweithgareddau cyfryngau i hyrwyddo’r cyfleoedd o dwf glân a chodi ymwybyddiaeth o sut y gall busnesau a’r cyhoedd gyfrannu a mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.
Fel rhan o’r Wythnos Wyrdd rydym yn hyrwyddo gwaith gwych prosiectau ynni cymunedol ledled Cymru. Rydym yn annog aelodau i wahodd eu AC neu AS lleol i ymweld â’u prosiectau ynni cymunedol lleol i ddarganfod mwy am yr hyn maen nhw’n ei wneud a’r cymunedau y maent yn eu cefnogi.
Cliciwch yma am e-bost drafft yn gwahodd eich AC neu AS lleol i’ch prosiect!
...Yn ôl i'r rhestr.
I fod y cyntaf i glywed ein newyddion & cynigion diweddaraf, llenwch y ffurflen isod: