Mae Ynni Cymunedol Cymru yn ehangu. Rydym yn chwilio am ddau unigolyn deinamig ac egnïol i ymuno â’r tîm a datblygu ein gwasanaethau.
Bydd y rôl cyntaf fel Rheolwr Marchnata a Hyrwyddo CyfranNi yn gofyn i chi ddatblygu rhwydwaith CyfranNi ac adeiladu’r rhwydwaith honno i gefnogi cynigion cyfranddaliadau cymunedol a bondiau yng Nghymru. Bydd y rôl yn cynnwys datblygu ymgyrch Gymru gyfan i hyrwyddo budd a gwerth cyfranddaliadau cymunedol yng Nghymru, ac i annog pobl i danysgrifio i’r rhwydwaith a datblygu gwasanaeth i’n haelodau er mwyn rhoi cymorth iddynt i ddatblygu cynigion cyfranddaliadau cymunedol. Mae’r swydd yn gofyn am brofiad marchnata, o greu ymgyrchoedd effeithlon sydd wedi cyrraedd ystod eang o bobl. Rydym yn chwilio am rywun gyda mentergarwch, sgiliau pobl rhagorol ac angerdd ac ymrwymiad go iawn tuag at ynni adnewyddadwy, cynaliadwyedd a datblygu cymunedol. Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg o fudd i’r swydd hon.
Mae’r ail rôl fel Rheolwr Datblygu a Gweithredu yn gofyn am unigolyn i fod yn rhan greiddiol o ddatblygu’r sefydliad a’r sector gan ein galluogi ni i ymestyn ein gweithgarwch at wres, effeithlonrwydd ynni a thrafnidiaeth. Bydd y rôl yn cefnogi prosiectau YCC ac yn chwilio am brosiectau newydd i’w datblygu mewn partneriaeth â’n haelodau. Mae’r swydd yn gofyn am sgiliau rheoli, profiad o godi arian, menter, sgiliau pobl rhagorol ac angerdd gwirioneddol ar gyfer ynni adnewyddadwy, cynaliadwyedd a datblygiad cymunedol. Bydd y rôl â chyfrifoldebau rheolwr llinell am dîm bychan o bobl yn gweithio ar draws ystod o brosiectau. Bydd y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg o fudd.
Ceir rhagor o wybodaeth yn y swydd ddisgrifiadau hyn:
Anfonwch CV a llythyr eglurhaol i dyfan@communityenergywales.org.uk er mwyn ymgeisio.
...Yn ôl i'r rhestr.
I fod y cyntaf i glywed ein newyddion & cynigion diweddaraf, llenwch y ffurflen isod: