Yn ddiweddar, fe wnaeth rhai o’n haelodau gymryd rhan ar raglen Newyddion S4C yn galw i wneud hi’n haws i werthu ynni’n lleol.
Fe wnaeth Meleri Davies o Bartneriaeth Ogwen a Neil Lewis o Ynni Sir Gâr siarad am yr heriau o geisio cadw’r ynni sy’n cael eu cynhyrchu’n ein cymunedau’n lleol, fel bod y bobl sydd fwyaf agos at baneli solar, tyrbeini gwynt a hydro yn gweld y buddion mwyaf.
Gorffennodd y darn gyda nodyn cryf; os ydym am i bobl gyffredin groesawu ynni adnewyddadwy wrth i ni symud at gymdeithas ddigarbon, wedyn efallai mai perchnogaeth a buddion cymunedol yw’r dull o wneud hynny.
Gallwch chi wylio rhan gyntaf yr adroddiad yma:
...Yn ôl i'r rhestr.
I fod y cyntaf i glywed ein newyddion & cynigion diweddaraf, llenwch y ffurflen isod: