Ynni Cymunedol Cymru

Myfyrio ar ddechrau wythnos gwyrdd Prydain Fawr

Delwedd

Ni allai wythnos #GreenGB fod wedi dod ar adeg fwy addas yn dilyn rhyddhad adroddiad diweddaraf yr IPCC ar newid yn yr hinsawdd, a roddodd inni rybudd amlwg bod gennym 12 mlynedd i droi pethau o gwmpas os ydym am gyfyngu cynhesu byd eang i 1.5 gradd. Ond rwy’n ffeindio hi’n weddol eironig mai menter a drefnir gan lywodraeth y DU yw wythnos Wyrdd Prydain Fawr sydd, yn ôl Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU, yn methu â chyflawni ein gostyngiadau allyriadau carbon ym mhob ardal. Efallai mai dyma’u cyfle i ddangos rhywfaint o arweinyddiaeth go iawn ar y mater, ond yr wyf yn ofni y gallai hyn fod yn ymarferiad arall o ‘Greenwash’ lle maen nhw’n gobeithio tynnu ei’n sylw ni er mwyn i ni beidio â sylwi ar eu methiant neu amharodrwydd i fynd i’r afael â’r materion heriol hyn.

Yn union fel yr oedd yn edrych fel pe bai’r Sector Ynni Cymunedol yng Nghymru yn barod i ffynnu ac yn blodeuo ar ôl gwaith caled rhai arloeswyr e.e.. Dan McCallum (a gafodd ei wobrwyo am ei ymdrechion gyda MBE). Yn dilyn newid mewn llywodraeth dyma gefnogaeth ar gyfer prosiectau fel y ‘Feed in Tariff’ (FIT) a rhyddhad Treth Menter Gymdeithasol yn raddol llithro i ffwrdd, gan arwain at fwy a mwy o brosiectau sydd bellach heb unrhyw lwybr i’r farchnad. Mae’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yn dynodi bod 46 MW o brosiectau cymunedol a 14MW o brosiectau awdurdodau lleol yng Nghymru ar hyn o bryd gyda dim llwybr i’r farchnad( ac mae ei ddatblygiad yn amhosib). Mae posibilrwydd y bydd FITs a tariff allforio yn cael eu dymchwel yn gyfan gwbl y flwyddyn nesaf, felly bydd y sefyllfa yn mynd yn waeth fyth.

Fodd bynnag, nid dyma’r amser i fod yn flin na thrist. Gadewch i ni gymryd yr amser i fyfyrio ar yr hyn a gyflawnwyd gennym ers i’r mudiad Ynni Cymunedol ddechrau. Mae’n anhygoel beth all grwpiau ymroddedig o wirfoddolwyr eu cyflawni yn ystod y 10 mlynedd diwethaf ac felly dylem edrych yn â balchder.

Ers 2010, yn dilyn cyflwyniad yr Feed in Tariffs (FIT), mae’r sector ynni cymunedol ar draws Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon wedi tyfu’n gyflym. Mae grwpiau:

Wedi datblygu capasiti cynhyrchu adnewyddadwy ar raddfa fechan sy’n fwy na 250 MW. Darparu digon o drydan i dros 70,000 o gartrefi Cynnwys mewnbwn o dros 48,000 o aelodau a 1,800 o wirfoddolwyr Wedi codi dros £ 200 miliwn o fuddsoddiad i brosiectau. Yn arwain ar arloesedd; yng Nghymru rydym yn treialu Ynni Lleol, gan ddatblygu prosiectau o gwmpas Codi Tâl, atebion deallus, storio, hydrogen a llawer mwy. Felly, gadewch i ni gymryd y cyfle i ymestyn llaw i’r llywodraeth a sefydliadau eraill a dweud ein bod yn gwybod bod heriau fel newid yn yr hinsawdd yn galed, a gwyddom fod y newid i ateb ynni adnewyddadwy yn anodd, ond rydym yn barod i helpu a darparu ein hamser, ein hymrwymiad, a chodi canoedd o filiynau trwy ffynonellau cyllid eraill i’ch cefnogi chi i wneud hyn.

Felly, ar ddechrau wythnos #GreenGB, dyma ein neges i’n ASau, Aelodau’r Cynulliad ac aelodau etholedig eraill:

Mi nawn ni helpu i greu cymunedau bywiog a chynaliadwy. Rydym yn barod i roi’r gwaith caled a gwneud pethau’n wahanol i fod yn llwyddiannus. Rydym yn hapus i weithio gyda chi i greu dyfodol carbon niwtral. Ond am yr ymdrech hon, mae arnom angen ichi gyfarfod â ni hanner ffordd i fod yn llwyddiannus a chyflawni’r newid y mae angen gweld yma ym Mhrydain Mawr.

Tanysgrifiwch am ein Cylchlythyr

I fod y cyntaf i glywed ein newyddion & cynigion diweddaraf, llenwch y ffurflen isod: