Cynhyrchwyd adroddiad eleni gan Ynni Cymunedol Cymru, ac mae ar gael i’w ddarllen heddiw. Mae’n disgrifio datblygiad y sector ynni cymunedol yng Nghymru yn 2022, ynghyd â darparu trosolwg o weithgaredd y sector ym mhob gwlad. Dyma’r flwyddyn gyntaf i’r adroddiad gael ei gynhyrchu oddi fewn i’r sefydliad ynni cymunedol cenedlaethol.
Rydym yn ddiolchgar hefyd i bob un mudiad a sefydliad wnaeth gymryd yr amser i gwblhau’r arolwg eleni. Mae cadw bas data wedi’i ddiweddaru yn hollbwysig os ydym am hybu a pherswadio gwneuthyrwyr polisi a chyfranogwyr i greu tirwedd polisi sy’n gefnogol i ynni cymunedol ar lefel lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
Rydym hefyd yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru, ein noddwyr ar gyfer adroddiad eleni.
...Yn ôl i'r rhestr.
I fod y cyntaf i glywed ein newyddion & cynigion diweddaraf, llenwch y ffurflen isod: