Ynni Cymunedol Cymru

Lansio Cyflwr y Sector 2022

Lansiad Cyflwr y Sector

Lansio Arolwg Cyflwr y Sector 2021!

Byddwn unwaith eto’n gweithio gyda ein partneriaid Ynni Cymunedol yr Alban ac Ynni Cymunedol Lloegr i greu adroddiad Cyflwr y Sector i Gymru a’r DU.

Gofynwn i fudiadau cymunedol sy’n gweithio ym maes ynni adnewyddadwy – boed yn gynhyrchu, effeithlonrwydd ynni, rheoli galw, gwres neu drafnidiaeth carbon isel – i gysylltu a llenwi’r arolwg.

Dyma gyfle gwych i asesu ac ystyried y llwyddiannau a’r heriau mae’r sector ynni cymunedol yn eu hwynebu, ynghyd â mudiadau cymunedol eraill sydd eisiau gweithio tuag at gymdeithas di-garbon. Er mwyn nodi pa weithgaredd sy’n digwydd yn y maes ynni cymunedol ar lawr gwlad, mae’n bwysig bod cynifer o fudiadau a sefydliadau’n cymryd rhan ag sy’n bosib, fel ein bod yn gallu dangos gwerth y sector cyffrous ac unigryw hwn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu adroddiad unigryw i Gymru unwaith eto eleni, yn dilyn llwyddiant yr adroddiad peilot y llynedd. Rydym hefyd wrth ein boddau i gyhoeddi bod Dr Sioned Williams wedi ymuno â thîm Ynni Cymunedol Cymru fel Swyddog Polisi ac Ymchwil, gan gydweithio â Ynni Cymunedol yr Alban ac Ynni Cymunedol Lloegr i gynhyrchu’r adroddiad.

Mae’r ymateb ers cyhoeddi Cyflwr y Sector yng Nghymru wedi bod yn hynod o gadarnhaol, gydag ymateb cryf dros y we ac yn y cyfryngau. Gyda chymorth y canfyddiadau yn yr adroddiad, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i barhau i gefnogi y sector ynni cymunedol ac ynni cymunedol. Llynedd, gwnaeth canfyddiadau’r adroddiad cyfrannu at ystod o strategaethau a pholisïau cenedlaethol. Gosodwyd ynni cymunedol yng nghanol ymchwiliad dwfn y Dirpwy Weinidog Dros Newid Hinsawdd cyn y Nadolig, a bu aelodau o’r sector ynni cymunedol yn rhan o’r gwaith o ddatblygu’r argymhellion.

Pam bod cymryd rhan yn yr arolwg yn bwysig?

• Cyflwyno achos cadarnhaol dros ynni cymunedol a’i rôl yn y newid at sero-net a chyrraedd targedau hinsawdd 2030.

• Dangos gwerth cymdeithasol y sector mewn meysydd fel effeithlonrwydd ynni a gwaith tlodi tanwydd.

• Monitro sut mae’r sector yn tyfu ac yn arloesi.

• Dylanwadu a darparu gwybodaeth i wneud penderfyniadau.

Bydd y canfyddiadau o’r arolwg yn cael ei ddosbarthu mewn adroddiad Cyflwr y Sector i’r DU cyfan, ynghyd â adroddiad ar wahân i Gymru. Mae cael data wedi’i ddarparu gennych chi yn gosod sylfaen cadarn i ni weithio’n well, yn effeithlon a chydweithio gyda Llywodraethau’r DU a Chymru i gefnogi ein sector. Diolch i bob un ohonoch chi sydd wedi cymryd amser i gwblhau yr arolwg Cyflwr y Sector, mae modd i ni wneud rhagor.

Er mwyn cychwyn llenwi’r arolwg, ewch yma: https://www.surveymonkey.co.uk/r/SOTS22Welsh

Ewch yma i lawrlwytho y cwestiynau mewn PDF: Cwestiynau PDF

Tanysgrifiwch am ein Cylchlythyr

I fod y cyntaf i glywed ein newyddion & cynigion diweddaraf, llenwch y ffurflen isod: