CYRCHFAN ARBED YNNI – HOLL GYNGOR ARBED YNNI I BERCHNOGION CARTREFI AR UN WEFAN
Mae gwefan newydd sy’n cynnig cyngor ynni cartref wedi cael ei lansio gan Ynni Cymunedol Cymru.
Mae Ynni Cymunedol Cymru’n gorff ymbarél ar gyfer grwpiau ynni cymunedol.
Mae’r wefan newydd – www.cartreficlyd.cymru yn darparu map o fudiadau ynni cymunedol sy’n darparu gwasanaeth, cyngor a chymorth. Mae’n cynnwys gwybodaeth am gymorth lleol ynghyd â chymorth cenedlaethol, yn esbonio sut i ddarganfod gosodwyr, ac yn amlinellu’r gwelliannau fyddai o fudd i gartrefi amrywiol.
Dywedodd Leanne Wood, Cyd-gyfarwyddwr Ynni Cymunedol Cymru “Mae torri defnydd ynni cartref i lawr yn hollbwysig er mwyn lleihau biliau. Mae’r argyfwng costau byw sydd wedi ysgogi gan ynni yn meddwl bod angen dybryd i leihau allyriadau sy’n ychwanegu at newid hinsawdd. Y datrysiad ar gyfer yr argyfyngau hyn yw i wneud ein tai yn fwy effeithlon o ran ynni.
“Yr hyn sydd wedi bod ar goll yng Nghymru yw cyrchfan y gall pobl ymddyried ynddi, a chael cyngor ynni cartref. Mae aelodau Ynni Cymunedol Cymru wedi cydweithio i greu adnodd fydd yn ddefnyddiol i bobl.”
Cefnogwyd y wefan drwy gynllun “Gyda’n Gilydd ar gyfer Ein Planed“ Cronfa Gymunedol y Loteri. Derbyniwyd yr arian i adeiladu gwefan oedd yn darparu cyngor ôl-osod, fel rhan o uchelgais ehangach Ynni Cymunedol Cymru i gyflymu ôl-osod yng Nghymru.
Dywedodd Jeremy Thorp, cadeirydd Gweithgor Effeithlonrwydd Ynni gydag Ynni Cymunedol Cymru “Mae pobl yn ymatal rhag ôl-osod eu cartrefi gan ei bod hi’n anodd i ddarganfod cymorth gonest. Mae nifer o gynlluniau sydd wedi’u harwain gan gymunedau yn darparu’r cyngor hwn heddiw. Ein bwriad yw i hyrwyddo’r cyngor lleol hwn pan fo’n bosib, ac os ydych chi’n ymwybodol o gynllun cyngor lleol nad yw wedi’i restru eto, cysylltwch â ni i ehangu’r rhwydwaith.”
Mae’n bosib canfod archwiliadau manwl o dai ar y wefan yn ogystal, sy’n cynnig mewnwelediad i’r math o gyngor sy’n berthnasol i chi os ydych chi’n byw mewn tŷ tebyg (e.e. tai teras Fictorianaidd).
Bydd rhagor o gynnwys yn cael ei ychwanegu dros yr wythnosau nesaf, cysylltwch â ni i gynnig pynciau y gallwn tynnu sylw atynt, a pha cynnwys hoffech chi weld ar y wefan.
...Yn ôl i'r rhestr.
I fod y cyntaf i glywed ein newyddion & cynigion diweddaraf, llenwch y ffurflen isod: