Mae Ynni Cymunedol Cymru wedi lansio cynllun ymaelodi. Ewch i’n gwefan neu cysylltwch â robert@communityenergywales.org.uk am becyn cais ymaelodi.
Mae Ynni Cymunedol Cymru yn falch o estyn cyfle i chi ymaelodi. Fe fydd Ynni Cymunedol Cymru’n rhoi llais clir i’r Sector Ynni Cymunedol yng Nghymru yn ogystal â hyrwyddo a chefnogi datblygu’r Sector yng Nghymru. Er mwyn gwneud hyn mae angen inni sbarduno a denu cefnogaeth sefydliadau, mentrau, busnesau a chyrff y sector cyhoeddus sy’n ymwneud â’r Sector Ynni Cymunedol ac sydd am greu sector cryf a byw ohono.
Mae Ynni Cymunedol Cymru yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru, sydd wedi ariannu datblygu’r cynllun ymaelodi yn ogystal â chreu swydd rhan amser er mwyn trin y gwaith. Dywedodd Robert Proctor, Rheolwr Busnes Ynni Cymunedol Cymru: “Mae’r diwrnod yma’n uchafbwynt llawer o waith caled gan bobl a sefydliadau a ffurfiodd Ynni Cymunedol Cymru. Fedrwn ni ddim dechrau deall faint o waith sydd wedi ei gyflawni eisoes gan yr arloeswyr yma, y tu ôl i’r llenni fel ‘tai. Maen nhw wedi hyrwyddo Ynni Cymunedol yng Nghymru ac wedi cymryd camau i helpu datblygu’r sector. Fodd bynnag, mae llawer o waith i’w wneud eto os ydym ni am weld ynni cymunedol yn dod yn agwedd bwysig o faes ynni yng Nghymru.”
Fe all manteision Ynni Cymunedol fod yn enfawr, ac mae’n bendant y gall atgyfnerthu cymunedau, o ran amgylchedd, cymdeithas ac economi. Mae cynlluniau megis Ynni Bro Dyfi, Egni, Cwmclydach Hydro a Talybont ar Wy yn enghreifftiau o gynlluniau sy’n bodoli eisoes ac sy’n defnyddio’r cyllid a greant er mwyn cefnogi prosiectau a sefydliadau cymunedol. Yn ogystal â hyn, mae llawer mwy wrthi’n datblygu a fyddai o les sylweddol i’w cymunedau. Er mwyn ceisio sicrhau datblygu’r prosiectau ynni cymunedol yng Nghymru, mae Ynni Cymunedol Cymru yn cynnig llais a chydymaith cefnogol i’r cymunedau fel y gallant nhw wynebu’r heriau a ddaw.
Mae Ynni Cymunedol Cymru yn gweld pwysigrwydd cynnwys rhanddeiliaid pwysig o’r Sector Preifat, y Sector Cyhoeddus a’r Byd Academaidd yn ogystal â’r Trydydd Sector; rydym yn croesawu ac yn annog busnesau a sefydliadau o’r sectorau hyn i ddod yn aelodau. Mae Ynni Cymunedol Cymru hefyd yn cyfaddef bod llawer o heriau yn y sector, ond mae hefyd gyfleoedd mawr. Mae diddordeb cynyddol yn y syniad o gyd-berchen gosodiadau ynni; mae mwy o wybodaeth am hyn ar ein gwefan:
Megis cychwyn ‘rydym ni ond rydym yn gobeithio y gallwn wneud Ynni Cymunedol yn rhywbeth cyffredin yng Nghymru, drwy ddod â’r sawl sy’n cefnogi ac yn ymwneud â’r maes at ei gilydd.
...Yn ôl i'r rhestr.
I fod y cyntaf i glywed ein newyddion & cynigion diweddaraf, llenwch y ffurflen isod: