Ynni Cymunedol Cymru

GwyrddNi ar waith yng Ngwynedd

Map Ardaloedd GwyrddNi Area Map

Petai ni’n gweithio mewn ffordd wahanol, beth fyddai posib ei wneud mewn cymunedau er mwyn gweithredu yn lleol ar newid hinsawdd?

Dyma’r cwestiwn oedd wrth wraidd sefydlu GwyrddNi. A dyma ddaeth a chwe menter gymdeithasol yng Ngwynedd ynghŷd i wneud cais am arian gan y Loteri Genedlaethol i wireddu’r syniad o greu mudiad gweithredu ar newid hinsawdd newydd sbon yng Ngwynedd.

Y chwe menter gymdeithasol dan sylw ydi: Datblygiadau Egni Gwledig (DEG) yng Nghaernarfon, Ynni Llŷn ym Mhen Llŷn, Cwmni Bro ym Mro Ffestiniog, Partneriaeth Ogwen yn Nyffryn Ogwen, Yr Orsaf/Siop Griffiths yn Nyffryn Nantlle a Cyd Ynni yn Nyffryn Peris.

Y nod clir oedd sefydlu mudiad fyddai’n dod â phobl ynghŷn yn y bum ardal (yr uchod ac eithrio Caernarfon), i ddysgu am newid hinsawdd ac ystod eang o ffyrdd i ymateb a gweithredu yn wyneb yr her hon, cyn trafod a phenderfynu ar y cyd ar Gynllun Gweithredu Hinsawdd lleol. Ail ran y gwaith fydd gweithredu’r cynllun a gwireddu syniadau’r cymunedau.

Wedi llawer o ymchwil i mewn i’r gwahanol fathau posib o wneud hyn, mae criw GwyrddNi wedi penderfynu mai Cynulliadau Cymunedol yw’r fforwm gorau ar gyfer gweithredu hyn yn ein cymunedau ni yma yng Ngwynedd, ardaloedd sydd eisoes â thraddodiad o ddod ynghŷd boed hynny mewn clwb rygbi, gapel, fore coffi neu ar daith gerdded.

Ganol Mawrth eleni bydd gwahoddiad swyddogol i gofrestru diddordeb mewn ymuno â Chynulliad Cymunedol yn cael ei anfon at holl drigolion yr ardaloedd hyn, a bydd gan bobl (dros 16 oed) dan ddydd Llun 4 Ebrill 2022 i gofrestru. Gallwch wneud hynny ar wefan GwyrddNi hefyd, felly os ydych chi yn byw yn un o ardaloedd GwyrddNi ewch draw i weld: www.gwyrddni.cymru/cymryd-rhan.

Ar ôl y dyddiad cau bydd 50 person yn cael eu dethol ym mhob ardal i fynychu’r cynulliad i gynrychioli’r gymuned ehangach, er mwyn dechrau ar y gwaith cyffrous o lunio Cynllun Gweithredu Hinsawdd ac yn sgil hynny creu dyfodol iach a hapus i’r cymunedau. Mae pob ymdrech yn cael ei wneud gan griw GwyrddNi i sicrhau bod y 50 yn adlewyrchu’r ardal o ran elfennau megis oedran, rhyw, ethnigrwydd, cefndir addysg a barn am newid hinsawdd. Mae hwn yn gyfle i bawb - nid dim ond pobl sy’n poeni am newid hinsawdd. Er mwyn iddo weithio mae angen cefnogaeth a llais y gymuned gyfan.

Yna, wrth glywed gan siaradwyr gwâdd o bob math,rhai yn lleol a rhai o bellach ffwrdd, ac o amryw faes a diwydiant, bydd cyfle i’r 50 ddechrau meddwl a thrafod pa fath o weithgareddau, cynlluniau neu brosiectau i weithredu ar newid hinsawdd fyddai’n gweithio yn eu hardal nhw.

Mae’n holl-bwysig nodi mai hwyluso’r gwaith mae GwyrddNi - rydyn ni yma i ddod â phobl at ei gilydd, i wneud y gwaith trefnu, i wneud y gwaith gweinyddol a’r gwaith caib a rhaw, ond trigolion Pen Llŷn, Bro Ffestiniog, Dyffryn Nantlle, Dyffryn Ogwen a Dyffryn Peris fydd yn llwyr gyfrifol am gynnwys Cynllun Gweithredu Hinsawdd pob ardal. Fel mae Nina Bentley, Hwylusydd GwyrddNi ym Mro Ffestiniog yn esbonio:

“Y peth pwysicaf yn hyn i gyd ydi llais a barn y cymunedau; mae GwyrddNi yma i gydlynnu a hwyluso ond pobl yr ardaloedd hyn fydd yn penderfynu gyda’i gilydd beth fasan nhw yn hoffi ei weld yn digwydd yn lleol i fynd i’r afael â newid hisnawdd, er mwyn sicrhau bod dyfodol iach, ffyniannus, a cadarnhaol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Am ragor o wybodaeth neu i gysylltu gyda chriw GwyrddNi ewch i www.gwyrddni.cymru neu i gofrestru diddordeb mewn ymuno â chynulliad yn eich ardal chi (Pen Llŷn, Bro Ffestiniog, Dyffryn Ogwen, Dyffryn Nantlle neu Ddyffryn Peris) ewch i www.gwyrddni.cymru/cymryd-rhan a chofiwch eu dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol.

Casia Wiliam

Swyddog Cyfathrebu Cymunedol GwyrddNi

Casia@deg.cymru

07973612966

Tanysgrifiwch am ein Cylchlythyr

I fod y cyntaf i glywed ein newyddion & cynigion diweddaraf, llenwch y ffurflen isod: