Ar 23 Mehefin 2020 cynhaliodd Ynni Cymunedol Cymru weminar i drafod cynigion cyfranddaliadau ynni cymunedol.
Roedd y weminar yn ‘ddosbarth meistr’ gyda’r nod o helpu mynychwyr i ddeall beth yw cynigion cyfranddaliadau, sut maen nhw o fudd i’n cymunedau, a sut y gallant fod o fudd i bob un ohonom fel unigolion.
Ymhlith y siaradwyr yn y digwyddiad roedd Jeremy Thorp o Sharenergy; Dan McCallum o Egni Coop; Peter Davies o Ynni Cymunedol Sir Benfro; Sarah Merrik o Ripple Energy; Grant Peisley o YnNi Teg; a Jane Obrien o Ynni Cymunedol Grannell.
Mae yna sawl sefydliad ynni cymunedol ledled Cymru sy’n chwilio am fuddsoddiad yn eu cynigion cyfranddaliadau, a gallwch ddarganfod mwy am y rhain trwy ymuno â CyfraNi.
Gallwch hefyd ddysgu mwy am hyn o’r dosbarth meistr, trwy gwylio ein fideo o’r weminar yma:
...Yn ôl i'r rhestr.
I fod y cyntaf i glywed ein newyddion & cynigion diweddaraf, llenwch y ffurflen isod: