Ynni Cymunedol Cymru

Fferm Wynt Clocaenog

Fferm Wynt Coedwig Clocaenog yn Penodi Gweinyddwr Cronfa Buddsoddi Cymunedol

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod Cymorth Cymunedol a Gwirfoddol Conwy (CGGC) wedi cael ei benodi fel gweinyddwr y gronfa. Mae hwn yn gam nesaf cyffrous wrth gyflawni’r gronfa a fydd yn buddsoddi £786,000 y flwyddyn mewn cymunedau cyfagos yn ystod cyfnod y prosiect.

Mae CGGC yn elusen leol sydd gan brofiad helaeth o greu grantiau, a llwyddiant blaenorol o gefnogi cymunedau lleol. Tasg gyntaf CGGC fydd recriwtio panel o wirfoddolwyr, sef cynrychiolwyr lleol a fydd yn chwarae rhan hanfodol wrth lunio fersiwn terfynol strwythur a meini prawf y gronfa, yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â cheisiadau am gyllid a llunio dyfodol y gronfa. Byddai innogy yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd rhan ym mhanel y gronfa i ystyried gwneud cais. Mae CGGC yn chwilio am bobl o bob math o gefndiroedd ac sydd gan amrywiaeth o brofiad, sy’n rhannu eu hangerdd a’u brwdfrydedd i sicrhau bod y gronfa gyffrous hon yn cael cymaint o effaith â phosib, ac i adeiladu etifeddiaeth tymor hir ar gyfer yr ardal.

Ni fydd y gronfa yn derbyn ceisiadau tan fydd y panel wedi’i benodi. Er mwyn i hwn fod yn gronfa sydd wirioneddol yn cael ei harwain gan y gymuned, rydym am sicrhau bod y panel yn cael y cyfle i gymryd rhan lawn wrth lunio ei ddyluniad.

byddai innogy yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd rhan ym mhanel y gronfa i ystyried gwneud cais. Mae CVSC yn chwilio am bobl â phob math o gefndiroedd a phrofiadau sy’n rhannu eu hangerdd a’u brwdfrydedd i gynyddu effaith y gronfa gyffrous hon ac adeiladu etifeddiaeth hirdymor i’r ardal. Gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion a’r ffurflen gais yma:

Ffurflen Gais Cymraeg

Ffurflen Gais Saesneg

Bydd CGGC hefyd yn penodi rheolwr amser llawn ar gyfer y gronfa, a fydd yn gyfrifol am holl agweddau ar weinyddu’r gronfa, gan gynnwys cymorth i ymgeiswyr yn ogystal â’r panel gwneud penderfyniadau.

Diwygio’r Ardal a Fydd yn Elwa o’r Gronfa

Yn innogy, rydym yn ymfalchïo yn ein dull hyblyg o gyflawni ein cronfeydd fferm wynt, ac nid yw Cronfa Buddsoddi Cymunedol Fferm Wynt Coedwig Clocaenog yn eithriad. Yn ystod cam ymgynghori’r prosiect hwn, rydym wedi gwrando ar farn dros 500 o bobl, ac rydym yn defnyddio’r adborth hwn i lunio ac i strwythuro’r gronfa.

Rydym wedi cael adborth ychwanegol sylweddol ynglŷn â’r ardal a fydd yn elwa o’r gronfa ers ei chyhoeddi’r llynedd. Yn dilyn ystyriaeth ofalus, rydym wedi dewis ehangu’r ffiniau ar gyfer y gronfa ar ochr Sir Ddinbych y fferm wynt (mae’r ardal a fydd yn elwa, sydd wedi’i diweddaru, i’w gweld yn atodiad yr e-bost hwn). Nid yw hyn yn effeithio ar barth blaenoriaeth 1 sy’n aros yr un fath, nag ar yr egwyddor na fydd unrhyw brosiect cadarn yn y parth hwnnw’n colli allan i’r ardal ehangach.

Rhagor o wybodaeth

Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r gronfa, gan gynnwys manylion am rôl aelodau’r panel ac am sut mae gwneud cais, ar gael yn www.innogy.com/clocaenogforest. Bydd rôl rheolwr y gronfa yn cael ei hysbysebu ar wefan CGGC yn www.cvsc.org.uk

E-bost: clocaenogwindfarm@innogy.com

Ffôn: 0845 075 0415

Cyfeiriad: Innogy UK, Fferm Wynt Coedwig Clocaenog, Uned 22, Canolfan Arloesedd Bae Baglan, Central Avenue, Parc Ynni Baglan, Port Talbot, SA12 7AX

Tanysgrifiwch am ein Cylchlythyr

I fod y cyntaf i glywed ein newyddion & cynigion diweddaraf, llenwch y ffurflen isod: