Ynni Cymunedol Cymru

Estyniad i FiT

Rydym yn falch o glywed fod adran Busnes, Egni a Strategaeth Ddiwydiannol y Deyrnas Gyfunol wedi cytuno i roi estyniad i brosiectau FiT Hydro a Solar PV sydd wedi’u cofrestru eisioes.

Fe wnaethom ni wthio ar Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i sicrhau’r estyniad hwn, fel bod y rhan helaeth o brosiectau ynni cymunedol yn medru cael eu cwblhau. Diolch i Community Energy England, Community Energy Scotland a Local Energy Scotland am gydweithio gyda ni.

Golyga’r estyniad hwn ein bod ni’n medru parhau i ddatblygu prosiectau ynni cymunedol dros y misoedd nesaf a helpu grymuso cymunedau Cymru.

Dywedodd Dan McAllum, Cyfarwyddwr Egni: “Ry’n ni nawr wedi gallu gosod dros 3MW o solar ar doeon yng Nghymru ar 99 o adeiladau hyd yn hyn. Galluogodd yr estyniad diwethaf i FiT i ni osod y prosiect solar to mwyaf yng Nghymru ar Feledrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas. Ry’n ni hefyd wedi gosod solar ar dros 30 o ysgolion gan weithio gyda Chyngor Sir Casnewydd, Abertawe a Sir Benfro. Bydd ymestyn FiT nes Mawrth 31ain 2021 yn ein galluogi ni i wneud llawer mwy, gan ymestyn heibio 100 o osodiadau, helpu i gefnogi’r adnewyddiad gwyrdd a chael pobl i ymwneud ag ynni adnewyddadwy.

Gallwch ddarllen ymateb Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol fan hyn.

Tanysgrifiwch am ein Cylchlythyr

I fod y cyntaf i glywed ein newyddion & cynigion diweddaraf, llenwch y ffurflen isod: