Ynni Cymunedol Cymru

Egni cymunedol ac ymuno ag Ynni Cymunedol Cymru.

Sioned

Dechreuais weithio gyda thîm Ynni Cymunedol Cymru fel Swyddog Ymchwil a Pholisi yn ddiweddar. Ddes i ar draws ynni cymunedol am y tro cyntaf nôl yn 2015 mewn darlith polisi ynni yn ystod prynhawn cysglyd. Roedd y darlithydd yn siarad am y syniad o gymysgedd ynni, a dangosodd ddarlun o’r ystod o ddulliau o gynhyrchu ynni a’u maint – o PV cartref i ffermydd gwynt enfawr. Yng nghanol y darlun oedd ynni cymunedol, dull cynhyrchu oedd yn siapio rhan o’r system ynni ehangach, gydag enghreifftiau oedd yn amrywio o hydros bychain yn yr Alban i PV solar ar neuadd bentref yn Nyfnaint. Doedd hyn ddim yn rhywbeth oeddwn i wedi dod ar draws o’r blaen, a thaniodd fy nychymyg. Dw i wedi bod yn cymryd nodiadau ar bopeth yn ymwneud ag ynni cymunedol ers hynny, a pharhau i ddysgu am y sector bychan ond cydnerth hwn yn y DU, yn enwedig yng Nghymru.

Sylweddolais fod ynni cymunedol yn gweddu Cymru am fod ei chymunedau wedi’u clymu at y tirwedd, yn agos at adnoddau naturiol gyda mynyddoedd ac afonydd. Wrth feddwl am fy magwraeth yn Eryri, ar ochrau’r Carneddau gyda’u nifer o droeon gwyntog, a’r cyfnod nes ymlaen yn nyffryn Peris a nofio yn Llyn Padarn – dw i wedi bod yn ffodus i brofi’r amrywiaeth o dywydd Cymreig, o glaw a chenllysg i’r ysbeidiau heulog prin.

Picture2

Mae wedi bod yn gyffrous iawn i weld hydros cymunedol yn cael eu datblygu yn nyffryn Ogwen a Pheris dros y blynyddoedd diwethaf, a gweld pobl yn casglu at ei gilydd i greu ynni cymunedol ac incwm ohonynt. Peth braf hefyd yw gweld cymunedau’n gwneud defnydd da o’r glaw sydd gennym ni yma yng Nghymru!

Maent yn gymunedau sydd â pherthynas agos â’r tirwedd – ac yn enwau’r mentrau ynni cymunedol – Ynni Padarn Peris ac Ynni Ogwen – fe welwn ni’r cysylltiad ag Afon Ogwen ac Afon Goch yn Nyffryn Peris. Mae’r cyswllt hwn rhwng ynni a thirwedd wedi bodoli ers y cyfnod diwydiannol yn y rhan yma o Gymru, gyda thechnoleg hydro a oedd yn cael ei ddefnyddio mewn chwareli llechi yn y gorffennol, bellach yn cael ei defnyddio i gefnogi prosiectau ynni adnewyddadwy. Dyma yw grym ynni cymunedol: defnyddio adnoddau lleol i bweru’r hydro cymunedol yn grymuso cymunedau lleol drwy gadw buddion lleol.

Picture4
Picture5

Wedi ychydig yn rhagor o ddarlithoedd a gorffen fy MSc mewn Newid Hinsawdd, ddes i nôl i Gymru, a bod yn ddigon ffodus i ddilyn y syniadau hyn a fy niddordeb mewn pynciau amgylcheddol ac ynni adnewyddadwy yng nghymunedau Cymru. Roedd hyn ar ôl derbyn nawdd gan KESS2 ar gyfer PhD ym Mhrifysgol Bangor gan weithio mewn partneriaeth ag Ynni Padarn Peris. Testun y PhD oedd ‘Energised Welsh communities’, ac roeddwn yn archwilio nid yn unig y dulliau o gynhyrchu ynni adnewyddadwy, ond hefyd yr ystod eang o effeithiau cymdeithasol oedd yn codi o’r prosiectau hyn.

Picture6

Fel rhan o’r PhD, roedd hi’n wych i weithio gydag ystod o brosiectau – diolch i bawb wnaeth rhoi amser i gael panad a sgyrsiau am brosiectau ynni cymunedol yn eu cymuned leol. Ges i fy nghroesawu gan wirfoddolwyr oedd yn gweithio ar hydros yng ngogledd Cymru, a mynd am dro i weld tyrbeini gwynt yn ne Cymru hefyd. Ar y cyfan, dangosa’r PhD y gwerth ychwanegol sydd gan brosiectau cymunedol i greu effaithiau cymdeithasol law yn llaw â kWh. Mae cael dewisiadau lleol, adeiladu hyder ac ymdeimlad o reolaeth ond yn rhai o’r canlyniadau sy’n codi o brosiectau ynni cymunedol. Maent yn arwain at bobl yn cymryd rhan, ac yn gosod be sy’n teimlo’n aml fel pynciau amgylcheddol haniaethol o fewn cyd-destun lleol drwy fentrau addysgiadol.

Picture7

Gyda’r swydd newydd a’r flwyddyn newydd hon, dw i’n edrych ymlaen at weithio gyda CEW i ddatblygu ein dealltwriaeth o’r cyfleoedd a’r heriau sy’n ein hwynebu yng nghymunedau Cymru wrth i ni gymryd rhan a gweld budd y newid at gymdeithas ddi-garbon.

Tanysgrifiwch am ein Cylchlythyr

I fod y cyntaf i glywed ein newyddion & cynigion diweddaraf, llenwch y ffurflen isod: