Dyddiad: Dydd Mercher, Medi’r 19eg
Amser: 9:00yb-5:00yp
Cost: Am ddim
Lleoliad: Tŷ Portland, Caerdydd
I gadw lle, cliciwch yma
Mae ein system ynni yn newid, ac mae’r newid yma’n cynnig cyfleoedd i gymunedau a rhanddeiliaid ynni lleol.
Bydd y digwyddiad yn canolbwyntio ar eich hysbysu o’r diweddaraf a gofalu eich bod yn rhan ymarferol o ddyfodol ein system ynni. Bydd Gweithredwyr Rhwydwaith Dosbarthu (DNOs) o Loegr, Cymru a’r Alban wrthlaw i’ch helpu i ddysgu am y profion a phrosiectau sydd eisoes ar waith mewn cymunedau ym Mhrydain. Bydd cyflwyniadau gan gymunedau blaenllaw sy’n cymryd rhan mewn prosiectau fydd yn dylanwadu ar ddyfodol ynni lleol, ac yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o fodelau busnes ynni cymunedol. Byddwch hefyd yn dysgu am newidiadau i bolisïau a rheoliadau tuag at ynni system glyfar a hyblyg a’r gwaith i ofalu ei fod yn haws i gymunedau gymryd rhan.
Mae Regen yn cynnal y cyfres o ddigwyddiadau hyn am y drydedd flwyddyn, ar y cyd â Chymdeithas Rhwydweithiau Ynni (ENA) a Gweithredwyr Rhwydwaith Dosbarthu Prydain. Mae gweithio mewn partneriaeth a chydweithio yn hanfodol ar gyfer treialon arloesedd rhwydweithiau, felly dewch heibio i gefnogi’r bobl sydd ynghlwm â’r gwaith, manteisio ar syniadau i’ch ysbrydoli a dod o hyd i dir cyffredin gyda phobl eraill.
Agenda a mwy o fanylion i ddilyn maes o law…
...Yn ôl i'r rhestr.
I fod y cyntaf i glywed ein newyddion & cynigion diweddaraf, llenwch y ffurflen isod: