Llun gan Will Philpin o brotest BLM Bangor, Gwynedd. Wedi ei drefnu gan North Wales Africa Society
Yn union fel pobl ledled y byd, mae Ynni Cymunedol Cymru a’i aelodau yn hollol trallodus am farwolaeth drasig George Floyd, ag yr hyn mae’r digwyddiad hwn yn ei gynrychioli.
Mae’r ffaith bod pobl yn dal i ddioddef triniaeth dreisgar ac annheg gan awdurdodau heddiw oherwydd lliw eu croen, treftadaeth, cyfeiriadedd rhywiol, sefyllfa ariannol, crefydd neu farn wleidyddol yn annerbyniol - gan effeithio arnom hyd yn oed yn fwy pan fydd hyn yn digwydd yn ein cymunedau ein hunain.
Mae’r mudiad ynni cymunedol yng Nghymru bob amser wedi brwydro dros amrywiaeth, undod a chydraddoldeb y tu mewn i’n cymunedau, ac mae’n parhau i hyrwyddo cynhwysiant a chyfle cyfartal gwaeth beth fo cefndiroedd neu hoffterau pobl.
Nawr yn fwy nag erioed, rhaid inni sefyll gyda’n gilydd a chanolbwyntio ar y pethau sy’n ein cysylltu, a sylweddoli mai’r unig ffordd i ddynoliaeth barhau i fodoli a ffynnu yw os ydym yn parchu ac yn cefnogi ein gilydd, ac yn harneisio ein holl wybodaeth, sgiliau a syniadau i adeiladu byd cyfiawn a chydweithredol gyda’n gilydd.
Rydym yn cydymdeimlo a theulu George Floyd, a phawb sydd wedi dioddef neu colli rhywun annwyl oherwydd ymddygiad gwahaniaethol.
...Yn ôl i'r rhestr.
I fod y cyntaf i glywed ein newyddion & cynigion diweddaraf, llenwch y ffurflen isod: