Hoffai Ynni Sir Gar drosglwyddo eu benthyciad olaf mewn i gyfranddaliadau o £100,000.
Os yr hoffech fod yn aelod ac am fuddsoddi, ebostiwch mail@ynnisirgar.org.
Gwelwch holl fanylion y cynnig newydd hon a sut i wneud cais am gyfranddaliad yn yr Dogfen Cynnig Cyfranddaliadau.
Buddsoddiad lleiaf ond yn £100
Mae Ynni Sir Gar erbyn hyn wedi codi £1m am eu costau prosiect. Ers y Cynnig Cyfranddaliadau olaf, mae eu tyrbin gwynt i fyny, yn cynhyrchu trydan ac elw ac felly maent eisoes wedi talu eu benthyciad cyntaf o £850,000 gan Cyllid Cymru.
Bydd y tyrbin gwynt 500kW yn cynhyrchu ynni glân, carbon isel am y dau degwad nesaf oleuaf, gan hefyd cynhyrchu elw gwych ar eich buddsoddiad na all gael ei gyfateb gan banciau’r stryd fawr.
Mae Ynni Sir Gar yn gweithio tuag at eu hamcanion o amddiffyn preswylwyr o tlodi tanwydd.
Hyd yn hyn maent wedi buddsoddi yn uniongyrchol mewn i’r gymuned leol drwy prosiect fydd yn dod â buddion hir dymor - yn Neuadd Gymunedol Salem maent wedi gosod paneli solar (10kW) a batris storio (5kWh) fel gall yr ynni sy’n cael ei gynhyrchu gan y paneli gael ei ddefnyddio i bweru pwyntiau gwefru am cerbydau trydan rydym hefyd wedi ei osod. Maent hefyd yn ariannu datrysiadau goleuo ynni isel (trwy cymorth Adfywio Cymru) i leihau costiau a carbon a ddaw o oleuo’r adeilad. Ers hyn mae cymuned Salem wedi cael ei hysbrydoli i osod pwmp gwres a fydd yn cael gwared o filiau ynni am y rhan fwyaf or flwyddyn. Rydym hefyd wedi adeiladu wal gerrig sychion 8m gan ddefnyddio sgiliau lleol a’i ailblannu am bioamrywiaeth.
Gyda’n gilydd rydym yn adeiladu cymuned hyfyw, rhywbeth yr hoffwn ei ddyblygu ar draws Sir Gâr.
...Yn ôl i'r rhestr.
I fod y cyntaf i glywed ein newyddion & cynigion diweddaraf, llenwch y ffurflen isod: