Ynni Cymunedol Cymru

Cynnig Bondiau Nawr ar Agor!

Mae Ynni Teg wedi lansio cynnig bondiau newydd ar gyfer eu tyrbin gwynt yn Meidrim, Caerfyrddin. Dyma yw eu trydydd cynnig bondiau i godi arian ar gyfer y tyrbin. Ers cael ei gomisiynu yn Awst 2017, mae wedi ennill dros £700,000 o incwm ac arbed dros 2000 tunnell o garbon deiocsid rhag cyrraedd yr atmosffêr. Maent yn edrych am £400,000 ychwanegol drwy gynnig bondiau, fydd yn ail-arriannu benthychiad masnachol.


 


Dywedodd Jeremy Thorp, aelod o fwrdd Ynni Teg:


Mae Ynni Teg wedi bod yn gweithredu’n llwyddianus ers dros 3 mlynedd ac ry’n ni’n amcangyfrif ei fod wedi arbed o leiaf 2000 tunnell o garbon deiocsid rhag cyrraedd yr atmosffer. Rydym wedi bod yn ail-ariannu ein benthyciad masnachol gyda bondiau’n raddol, er mwyn cynyddu faint o arian sydd gennym dros ben, a galluogi ni i roi mwy o gefnogaeth i sefydlu cynlluniau ynni cymunedol eraill ledled Cymru. Heddiw rydym yn lansio ein trydydd cynnig bondiau er mwyn ail-ariannu rhagor o’n benthyciad, felly dyma gyfle I unrhyw un I fuddsoddi mewn ynni cynaliadwy sy’n eiddo i’r gymuned, helpu lleihau allyriadau carbon ac ennill llog. Cymerwch olwg ar ein dogfen cynnig bondiau, a gobeithiwn y byddwch yn penderfynu buddsoddi ynom ni.


Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Ynni Teg.

Tanysgrifiwch am ein Cylchlythyr

I fod y cyntaf i glywed ein newyddion & cynigion diweddaraf, llenwch y ffurflen isod: