Ynni Cymunedol Cymru

Cyflwr y Sector 2021

Gwnaeth Grwpiau Ynni Cymunedol godi £4 miliwn mewn cyfranddaliadau eleni, gan ddangos hyder pobl Cymru yn y sector a’i ddyfodol.

Mae’r adroddiad cyntaf ar Gyflwr y Sector yng Nghymru, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, yn nodi bod ynni cymunedol yn ddolen gyswllt hanfodol rhwng pobl gyffredin a’r newid at sero-net. Mae grwpiau ynni cymunedol wedi cyrraedd bron i 100,000 o bobl eleni, a phrofi eu bod ar flaen y gad yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Ym mlwyddyn COP 26, mae ennill ymddiriedaeth cymunedau a phobl gyffredin wrth i ni droi tuag at sero-net, a sicrhau bod y newid hwn yn un teg i bobl Cymru, yn hollbwysig . Dywedodd Dan McCallum, cyfarwyddwr Egni Co-op – grŵp ynni cymunedol sydd wedi gosod paneli solar ar doeon ysgolion a neuaddau pentref ynghyd â Felodrôm Geraint Thomas yng Nghasnewydd hwn: “Mae hanes Cymru ynghlwm ag ynni. Ry’n ni gyd yn gwybod am waddol y diwydiannau trwm yn ein cymunedau ôl-ddiwydiannol. Mae ynni cymunedol am gadw’r buddion hynny’n lleol, drwy ynni glân, gwyrdd”.

Mae’r flwyddyn hon yn nodi’r Adroddiad Cyflwr y Sector cyntaf sy’n unigryw i Gymru, gan roi cyfle i grwpiau ynni cymunedol a rhanddeiliaid eraill i drafod y sector o fewn cyd-destun Cymreig am y tro cyntaf. Mae natur gydweithredol Cymru i’w weld yn y sector, â Chymru sydd â’r nifer uchaf o grwpiau ynni cymunedol y pen yn y DU – nodwyd fod 60 ohonynt yn yr adroddiad.

Gosodwyd 4.2 MW o ynni cymunedol eleni, ac mewn blwyddyn sydd wedi bod yn heriol iawn i gymunedau, rhoddodd grwpiau ynni £20,000 mewn cymorth COVID-19, arian wnaeth fynd at brynu PPE a bwyd ar gyfer y rheini oedd eu hangen. Rhoddwyd cyfanswm o £250,000 mewn budd cymunedol i gymunedau Cymru eleni.

Dywedodd Robert Proctor, Rheolwr Datblygu Busnes Ynni Cymunedol Cymru: “Mae’n wych gweld pobl Cymru’n mynegi eu diddordeb yn y sector, ac mae codi £4 miliwn drwy gynigion cyfranddaliadau yn dangos eu hyder ynddo hefyd. Er bod y sector wedi wynebu heriau yn y blynyddoedd diwethaf gyda diwedd y tariff cyflenwi, ry’n ni’n falch bod ynni cymunedol yn dangos gwydnwch”.

Mae diwedd y gefnogaeth ar gyfer ynni adnewyddadwy ar raddfa fach gan Lywodraeth y DU wedi ei wneud hi’n anoddach o lawer i ddatblygu prosiectau ynni cymunedol yng Nghymru a’r DU. Yng Nghymru fodd bynnag, mae’r cyfle i wneud pethau’n wahanol, a sicrhau bod pobl Cymru wrth galon y newid at sero carbon ac yn bwysicach na hynny’n gweld y buddion o’r newid hwn, wrth i ni geisio cadw’r cyfoeth sy’n cael ei gynhyrchu yn ein cymunedau.

Mae’r sector bellach yn addasu i ddiwedd y tariff drwy gynyddu graddfa prosiectau. Mae YnNi Teg, sy’n wasanaeth datblygu proffesiynol ar gyfer ynni cymunedol yn brysur yn datblygu be fuasai’r fferm solar fwyaf yn y DU, ac mae 54MW o ynni cymunedol yn y broses o gael ei ddatblygu.

Os hoffech chi ddarllen yr adroddiad, ewch yma: Cyflwr y Sector yng Nghymru 2021

Tanysgrifiwch am ein Cylchlythyr

I fod y cyntaf i glywed ein newyddion & cynigion diweddaraf, llenwch y ffurflen isod: