Ynni Cymunedol Cymru

Cyflwr y Sector

Emi39LSW8AAEqiH

Mae’n bleser gennym rannu’r newyddion bod arolwg o Gyflwr y Sector 2021 bellach ar gael!

Mae Ynni Cymunedol Cymru yn gwahodd sefydliadau cymunedol o Gymru sy’n gweithio a brosiectau carbon isel i ymateb i’r arolwg hwn.

Mae Ynni Cymunedol Cymru wedi derbyn arian o Lywodraeth Cymru i greu Adroddiad Cyflwr y Sector unigol i Gymru. Mae hwn yn gam pwysig ac arwyddocaol bydd yn ein helpu ni i ymateb anghenion ein sector a’i gynrychiolu’n well yng Nghymru. Rydym hefyd yn gweithio gydag Ynni Cymunedol Lloegr ac Ynni Cymunedol yr Alban i gasglu gwybodaeth fydd yn creu arolwg ar gyfer y DU. Bydd hyn yn ein galluogi ni drafod y gwaith sy’n cael ei wneud ym mhob un o’r gwledydd ar yr ynys hon.

Cyflwr y Sector yw’r set ddata fwyaf cynhwysfawr am y sector ynni cymunedol. Eleni, mae rhai newidiadau cyffrous i’r arolwg a’r adroddiadau sy’n deillio ohono. Mae Ynni Cymunedol Cymru ac Ynni Cymunedol Lloegr yn gweithio gydag Ynni Cymunedol yr Alban i ehangu’r arolwg i gynnwys grwpiau yn yr Alban i sicrhau bod sylfaen dystiolaeth fwy cadarn byth ar gyfer y DU gyfan yn cael ei darparu ynghylch pam y dylai llunwyr polisïau a rhanddeiliaid eraill gefnogi ac ymgysylltu ag ynni cymunedol. Bydd adroddiad annibynnol ar gyflwr y sector yng Nghymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, i edrych yn fanylach ar weithgarwch ynni cymunedol yng Nghymru.

Bydd y data’n cael ei ddefnyddio i asesu’r amrywiaeth eang o effeithiau y mae sefydliadau ynni cymunedol yn eu cael yn y daith tuag at garbon sero-net. Bydd y canlyniadau’n cael eu dadansoddi a’u rhannu mewn adroddiad ar gyfer y DU i gyd, yn ogystal ag adroddiad ar gyflwr y sector yng Nghymru (diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru) a fydd yn cael ei lansio yn nes ymlaen yn y gwanwyn.

Mae adroddiadau blaenorol wedi cael eu defnyddio gan lywodraeth leol a chenedlaethol, gweithredwyr rhwydweithiau, ASau, mudiadau ymgyrchu ac amgylcheddol, a llawer o sefydliadau eraill yn y sector ei hun. Mae’r data’n sail i waith Ynni Cymunedol Cymru, Lloegr a’r Alban i gefnogi’r sector a lobïo dros bolisïau mwy cefnogol. Mae angen eich mewnbwn arnom i barhau â’r effaith hon. Bydd yr ymatebion y byddwch yn eu darparu eleni yn cael eu hychwanegu at ddata’r blynyddoedd blaenorol er mwyn llunio darlun cynhwysfawr o gynnydd ac effaith y gwaith anhygoel sy’n digwydd ar draws y sector ynni cymunedol. Bydd hyn yn galluogi’r Adroddiad o Gyflwr y Sector i addysgu llunwyr polisïau a rhanddeiliaid y sector, a dylanwadu arnynt unwaith eto.

Gallwch ymateb i’r arolwg yma.

Bydd yr arolwg ar agor nes 6pm Ddydd Gwener 14 Ebrill

Y flwyddyn hon, mae’r arolwg yn cael ei harwain gan Regen. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Prina (psumaria@regen.co.uk)

Tanysgrifiwch am ein Cylchlythyr

I fod y cyntaf i glywed ein newyddion & cynigion diweddaraf, llenwch y ffurflen isod: