Yn gyfrifol i:- Bwrdd Ynni Cymunedol Cymru
Rheolwr:- Rheolwr Datblygu Busnes
Lleoliad :- Byddem yn ystyried cyfleoedd gweithio hyblyg.
Cyflog - £21,000 i £24,000 y flwyddyn yn ddibynol ar brofiad (Oriau Llawn Amser)
Nod Ynni Cymunedol Cymru (CEW) ydy ceisio gofalu fod cynlluniau ynni cynaliadwy wrth wraidd cymunedau yng Nghymru. Mae’n gyfle i gymunedau ddatblygu i fod yn gryfach, yn fwy gwydn ac yn hunan-gynaliadwy drwy gynhyrchu eu hynni eu hunain, ei ddefnyddio mewn ffordd effeithlon a defnyddio’r incwm cyflawn i adfywio eu cymunedau. Bydd Ynni Cymunedol Cymru yn mynd ati i wneud y newidiadau hyn drwy ysbrydoli, galluogi a dylanwadu pobl, polisïau ac ymarferion ledled Cymru. Rydym yn dod â rhwydwaith o ymarferwyr ynghyd sy’n cydweithio gydag ac yng nghymunedau Cymru er mwyn datblygu cynlluniau cynhyrchu ynni adnewyddadwy a chynlluniau effeithlonrwydd ynni. Rydym yn llais ar ran cymunedau sydd eisiau mynd rhagddi rŵan ac rydym yn cynnig y gefnogaeth addysgiadol, ymarferol ac ariannol angenrheidiol i gymunedau fedru bod yn berchen ar a/neu gynnal cyfleusterau ynni adnewyddadwy a chynlluniau effeithlonrwydd ynni.
Rydym yn chwilio am unigolyn deinamig i chwarae rhan hollbwysig mewn datblygu proffil allanol a faint o bobl y mae’r mudiad yn cysylltu gyda nhw. Bydd hefyd disgwyl i’r unigolyn gynnig gwasanaeth gweinyddol i’n haelodau a chynnig gwasanaethau aelodaeth craidd. Bydd angen i’r ymgeisydd feddu ar brofiad o waith gweinyddol o safon uchel, sgiliau cyfathrebu a marchnata, profiad cyfryngau cymdeithasol, fod yn berson blaengar, yn meddu ar sgiliau trin pobl a bod yn frwdfrydig ac ymroddgar tuag at Ynni Adnewyddadwy, cynaladwyedd a datblygu cymunedol. Rydym yn ystyried y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn hanfodol.
I ddarllen mwy am y swydd, Swyddog Aelodaeth a Chyfathrebu
I geisio am y swydd, anfonwch eich CV ac Datganiad Personol 2 dudalen i Beca@communityenergywales.org.uk
...Yn ôl i'r rhestr.
I fod y cyntaf i glywed ein newyddion & cynigion diweddaraf, llenwch y ffurflen isod: