Mae Ynni Cymunedol Cymru yn chwilio am reolwr prosiect egnïol i arwain ar sefydlu’r clwb ceir cyntaf i Gymru gyfan, gan weithio â chymunedau ledled Cymru.
Dyma gyfle cyffrous i fod ar flaen y gad wrth newid ymddygiad pobl tuag at berchnogaeth car, hybu dulliau amgen o drafnidiaeth a mynd i’r afael ag ynysu gwledig mewn dull cynnaliadwy.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda sefydliadau cymunedol i greu saith clwb ceir yng Nghymru, cydlynnu hyfforddiant i gydlynwyr lleol ac yn adrodd yn ôl ar y prosiect i’r grŵp llywio.
Lawrlwythwch proffil y swydd yma: Proffil y Swydd Rheolwr Proisect Clybiau Ceir
Mae’r swydd wedi’i hariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Cenedlaethol.
Er mwyn ymgeisio, anfonwch CV a Llythyr Eglurhaol i dyfan@communityenergywales.org.uk
...Yn ôl i'r rhestr.
I fod y cyntaf i glywed ein newyddion & cynigion diweddaraf, llenwch y ffurflen isod: