Ynni Cymunedol Cymru

Cydweithio i guro’r argyfwng hinsawdd

Https %2F%2Fypapurgwyrdd.files.wordpress.com%2F2016%2F05%2Fymweld safle fferm wynt awel 1 23052016 (1)

Mae gweithredu cymunedol ar yr argyfwng hinsawdd yn hanfodol.

Wrth edrych yn ôl dros y degawd diwethaf yng Nghymru, mae ffyniant ynni cymunedol yn achos dathlu. Mae parodrwydd ein cymunedau i dderbyn technoleg werdd, cynhyrchu trydan a chymryd perchnogaeth o’r dulliau o gynhyrchu wedi arwain at sector ynni cymunedol iach.

Mae cwmnïau cydweithredol yn darparu dull i gymunedau weithredu’n uniongyrchol yn y frwydr yn erbyn yr argyfwng hinsawdd. Drwy ynni cymunedol cydweithredol mae poblogaethau lleol yn gwybod bod ganddynt rym yn y frwydr hon. Mae democratiaeth wrth galon cwmnïau cydweithredol; mae gan bob un yr hawl i fod yn rhan o wneud penderfyniadau ac mae ynni cymunedol yn gweithio o fewn y system ddemocrataidd hon, gan sicrhau bod newid ein cymdeithas tuag at fod yn ddi-garbon yn nwylo pobl cyffredin.

Yn ddiweddar, mae Egni Coop wedi gosod y safle solar cymunedol mwyaf yng Nghymru, uwchlaw felodrom Geraint Thomas, ac mae cwmnïau ynni cymunedol ledled Cymru yn lansio cynnig cyfranddaliadau gyda chyfraddau cystadleuol, fel yr un yma gan Community Energy Pembrokeshire.

Rydym eisiau rhannu cyfleoedd ynni cymunedol gyda phawb.

Er mwyn gwneud hyn, mae gwasanaeth CyfranNi wedi’i sefydlu ar gyfer y rheiny sydd eisiau cefnogaeth a chymryd rhan weithredol wrth ymladd yr argyfwng hinsawdd. Gallwch ymuno â rhestr lythyru CyfranNi a chael y newyddion diweddaraf am gynigion cyfranddaliadau o’r sector ynni cymunedol yng Nghymru. Mae’r cynigion cyfranddaliadau hyn yn rhoi cyfle i chi ennill llog ar eich arian, ac yn cynnig systemau teg i sicrhau bod cymunedau’n elwa oherwydd eich buddsoddiad.

Tanysgrifiwch am ein Cylchlythyr

I fod y cyntaf i glywed ein newyddion & cynigion diweddaraf, llenwch y ffurflen isod: