Ynni Cymunedol Cymru

Croeso Izzy!

Pride month end 1

Izzy ydw i (Nhw/Eu) a dw i newydd ddechrau gydag Ynni Cymunedol Cymru fel Swyddog Gweithredu a Datblygu. Dw i’n gyffrous iawn am bosibliadau’r swydd hon. Dw i’n caru dillad (a gwallt) lliwgar, cymysgu gwyddoniaeth a chelf, a threulio amser mewn mannau gwyrdd. Mae gennyf angerdd ddofn am fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd mewn dull sy’n canolbwyntio ar bobl. Dw i wedi gweithio ym meysydd cyfathrebu hinsawdd, ffasiwn cynaliadwy, ymgyrchu ac ychydig o gelf hinsawdd hefyd.

Pryd wnaeth fy niddordeb yn yr hinsawdd ddechrau?

Nôl yn 2014, dechreuais flogio. Dilyn pobl roeddwn yn eu hedmygu ar y we, roeddwn i’n eu gweld nhw’n postio lluniau o’u gwisgoedd, ynghyd ag adolygiadau ar eu blogiau eu hun, felly wnes i benderfynnu mynd ati fy hun. Roedd yn ddull o siarad am fy mywyd, ymarfer ffotograffiaeth, a chael ychydig o allbwn greadigol. Wedyn, o gwmpas 2018, gorffenais fy Lefelau A a glanio yn “y byd go iawn” a deall sut, er fy mod i’n un unigolyn, roeddwn hefyd yn rhan o gyfundrefn lle roedd fy mhrynwriaeth yn cael effaith negyddol ar bobl a’r amgylchedd, a gwnaeth y sylweddoliad hyn fy arwain tuag at fyd fasiwn cynaliadwy ac egwyddorol.

Gwnaeth fy mlog ddod yn rhan i mi ddogfennu fy siwrnai a rhannu syniadau, awgrymiadau a heriau gyda phobl eraill, gan esblygu’n raddol i drafod mwy am newid system, newid hinsawdd, hawliau gweithwyr ac agweddau croesdoriadol i gynaliadwyedd wnaeth arwain at gyfleoedd i weithio gyda Llywodraeth y DU, sefydliadau amgylcheddol, brandiau egwyddorol a mwy ar bob math o brosiectau.

Roedd fy mlog yn tyfu, ac roeddwn yn derbyn mwy o gyfleoedd i ddod yn rhan o gymunedau byd-eang a lleol a newid hinsawdd. Yn ystod y cyfnod hwn, gorffenais BSc mewn Ffiseg gyda Astroffyiseg. Gwnaeth y rhan fwyaf o fy nghyfoedion fynd ymlaen i weithio mewn academia, bancio ac amddiffyn, ond roeddwn i ychydig ar goll ynghylch beth i wneud. Roeddwn i am ddefnyddio fy ngradd mewn ffiseg ond hefyd wir eisiau gwneud gwaith yn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, felly penderfynais mai MSc mewn Ynni Andewyddadwy a Thechnoleg Cynnaliadwy oedd y dewis cywir.

Wind turbine

Pam ynni cymunedol?

Dw i ddim yn gwybod pryd clywais am ynni cymunedol am y tro cyntaf, siŵr o fod tra’n ymgeisio am gyrsiau MSc, ond dw i’n gwybod fy mod i wedi eisiau astudio ynni adnewyddadwy er mwyn mynd i’r byd ynni cymunedol. I mi, mae ynni cymunedol yn ddull croestoriadol o weithredu ar yr amgylchedd, sy’n rhoi grym yn nwylo pobl ac yn rhoi arian i gymunedau fynd i’r afael â heriau lleol. Rydym yn byw mewn byd lle mae’r rhan fwyaf o’r system ynni yn nwylo corfforaethau anferthol sy’n parhau i fuddio yn ystod argyfwng ynni, gan wneud biliynau’n fwy, tra bod rhagor o bobl yn byw mewn tlodi tanwydd. Mae nifer o’r cwmnïau hyn yn wedi treulio degawdau’n gwadu’r argyfwng hinsawdd ac yn parhau i wthio am ragor o olew a nwy. Mae diffyg gweithredu’r llywodraeth yn y gorffennol a’r presennol hefyd yn meddwl er bod y DU yn datgarboneiddio, mae graddfa’r newid yn araf iawn o hyd.

Ond does dim angen i’r sefyllfa aros yr un peth, mae ynni yn rhan mor bwysig o fywyd nad yw’r rhan fwyaf o bobl ag unrhyw rheolaeth drosto, mae ynni cymunedol yn un dull o gefnogi pobl i adennill reolaeth. Mae hefyd yn ddull o ddangos i ddiwydiannau a’r llywodraeth sy’n llusgo eu traed “dy’ch chi ddim am wneud y gwaith i ddatgarboneiddio’n ddigon cyflym? Iawn, nawn ni wneud ein hunain” tra’n cadw unrhyw gyllid o brosiectau o fewn cymunedau i weithredu ar eu problemau nhw, yn hytrach na rhoi rhagor o arian yn nwylo corfforaethau.

Copy of big pit me

Yn ystod fy MSc, gweithiais ar brosiect gydag Amgueddfa Cymru’n edrych ar ynni adnewyddadwy yn amgueddfa Big Pit, gan gymysgu astudiaeth ymarferoldeb a chyfathrebu hinsawdd, ynghyd â chysylltu gyda threftadaeth a diwylliant Cymreig. Gyda hanner y prosiect yn canolbwyntio ar addysgu’r cyhoedd ar dechnoleg adnewyddadwy ac ailddychmygu’r dyfodol o safleoedd diwydiannol yng Nghymru, roedd yn canolbwyntio ar waredu newid hinsawdd mewn dull oedd gyda phobl wrth ei ganol.

Nawr fy mod i’n YCC, dw i wedi fy nghyffroi i ddechrau dysgu am y gwaith anhygoel mae ein haelodau’n ei wneud, helpu cefnogi prosiectau newydd a phresennol ac i weld y sector yn parhau i dyfu ac ysbrydoli’r dyfodol. Dw i hefyd yn parhau fy ngwaith llawrhydd yn cyfathrebu ar yr hinsawdd law yn llaw gyda’r swydd hon, gan obeithio fedra i cael y gorau o ddau fyd.

Os oes gennych chi syniad neu brosiect ynni cymunedol hoffech chi drafod gyda mi, cysylltwch dros e-bost ar bob cyfrif: izzy@communityenergywales.org.uk.

Tanysgrifiwch am ein Cylchlythyr

I fod y cyntaf i glywed ein newyddion & cynigion diweddaraf, llenwch y ffurflen isod: