Ynni Cymunedol Cymru

Blog - Rob yn y Gynhadledd

Aeth ein Rheolwr Dablygiad Busnes, Robert Proctor i gynhadledd y Committee on Climate Change yr wythnos hon. Dyma rai o’i gasgladau ar ôl ymweld yr wythnos hon

Bob blwyddyn, ry’n ni’n cymryd rhan yng nghynhadledd flynyddol y Committee on Climate Change, sydd yn edrych ar themâu amrywiol ynghlych yr amgylchedd. Y thema’r flwyddyn hon oedd sut y byddwn yn addasu i fyd sydd 3 gradd yn gynhesach. Roedd derbyn y gwahoddiad eleni’n eiliad frawychus ond hefyd yn sbardun i wynebu’r heriau sydd o’n blaenau.

Wrth gwrs, ry’n ni wedi’n clymu o dan gytundeb Paris i geisio cadw cynhesu o dan 2 radd, a mor agos at 1.5 gradd ag sy’n bosibl. Yn anffodus, byddai parhau â pholisïau heddiw’n golygu cynnydd o 3 gradd erbyn 2100, gan olygu effaith anferthol ar ein hinsawdd, ac angen go iawn i baratoi ar gyfer byd sy’n wahanol iawn i’r un ry’n ni’n byw ynddo heddiw. Mae’r dyfodol hwn yn gosod risg uchel iawn i ni yng Nghymru, ond hefyd i bawb ar ein planed.

Weithiau, mae’n anodd i wir ddeall effaith newid hinsawdd. Pan fo rhifau a thermau haniaethol yn cael eu defnyddio er mwyn cyfathrebu’r ffenomen, nid yw’n teimlo fel peth go iawn. Roeddwn eisiau gwybod beth fyddai byd 3 gradd yn gynhesach yn meddwl i bobl, ac felly’n ystod y digwyddiad panel cyntaf, holais y gwyddonwyr oedd yn cymryd rhan ‘sut mae’r syniad o fyd 3 gradd yn gynhesach yn gwneud i chi deimlo?’ Fe wnaeth y rhan fwyaf ohonynt gydnabod ei fod yn syniad brawychus a phryderus. Er bod ganddynt ddealltwriaeth dda o newid hinsawdd ar raddfa fawr, a rhai o’r effeithiau tebygol ar y ddaear, doedd dim llawer o sicrwydd ynghylch sut y byddai’n effeithio ar gymdeithas, a beth fyddai goblygiadau hynny. Yn ychwanegol at hynny, roedden nhw’n cydnabod bod ffactorau lleol yn arwain at effeithiau oedd yn anodd i’w modelu. Roedd tanau Awstralia a Chaliffornia yn enghreifftiau lle’r roedd yr hinsawdd lleol yn arwain at danau oedd yn waeth na’r hyn yr oedd modelau hinsawdd yn eu rhagweld.

Fel mae nifer o gymunedau yng Nghymru’n gwybod, yn enwedig y rheiny wnaeth weld llifogydd erchyll y llynedd, rydym yn barod yn gweld effeithau byd sy’n cynhesu. Bydd pentref Fairbourne yn cael ei wagio oherwydd bod lefelau môr yn codi yng Nghymru. Bydd rhaid i’r trigolion symud o fewn yr 20 mlynedd nesaf oherwydd bydd y risg o ran llifogydd yn ormod. Dyma effaith cynnydd o 1 radd mewn tymheredd ac wrth gwrs ry’n ni’n gweld effeithau eraill anferthol yn fyd-eang.

Mae newid hinsawdd yma, heddiw, ac ry’n ni’n gweld ei effeithiau heddiw. Mae angen i ni addasu. Er mor frawychus ydy hi i drafod byd sydd 3-4 gradd yn gynhesach, mae angen i ni wneud hi’n glir i bobl fod hwn yn senario go iawn. Mae angen i ni feddwl nawr am sut y fedrwn ni atal effeithiau gwaethaf newid hinsawdd drwy leihau allyriadau CO2 a dechrau meddwl am sut fedrwn ni addasu.

Un o’r pethau sy’n dod â llawenydd i mi am y maes Ynni Cymunedol yw ein bod ni i gyd yn gweithio gyda’n gilydd i oresgyn yr heriau hyn a chreu newid yn ein cymunedau. Ry’n ni’n gweithio gyda’n gilydd i adeiladu cymunedau cynaliadwy a chryf, ac fe welon ni sut wnaeth grwpiau ynni cymunedol lleol lwyddo i gefnogi eu cymunedau yn ystod misoedd anoddaf Covid. Mae hi’n fwy pwysig nag erioed i ni adeiladu cymunedau cryf, a chefnogi ein cymunedau drwy’r newid anferthol yma ry’n ni’n byw drwyddo. Rwy’n gobeithio y bydd ein rhwydwaith yn ein helpu ni i gefnogi ein gilydd drwy’r amseroedd heriol hyn ac yn cynnig cymorth i’r cymunedau ry’n ni’n byw a gweithio ynddynt. Rwy’n teimlo’n hynod o freintiedig i fod yn gweithio gyda phobl mor angerddol a hynod. Ry’ch chi i gyd yn gwneud newid enfawr a chadarnhaol i’ch cymunedau. Ymlaen â’r gwaith, a chofiwch bod y gwaith ry’ch chi’n ei gyflawni’n creu gwahaniaeth, hyd yn oed pan fo’r heriau’n teimlo’n anferthol.

Diolch,

Rob

Tanysgrifiwch am ein Cylchlythyr

I fod y cyntaf i glywed ein newyddion & cynigion diweddaraf, llenwch y ffurflen isod: