Ynni Cymunedol Cymru

Charge UP Wales

Mae Ynni Cymunedol Cymru wedi derbyn arian o Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i sefydlu’r clwb ceir cymunedol cyntaf i Gymru gyfan. Bydd y prosiect hwn yn sefydlu rhwydwaith o glybiau ceir trydanol i Gymru, yn cynnwys 7 clwb ceir o dan berchnogaeth gymunedol a chysylltu gyda clybiau ceir sydd eisioes yn bodoli. Yn ystod y cyfnod ymgynghori, fe wnaeth YCC a phartneriaid nodi angen go iawn am weithio mewn dull cydweithiol yng Nghymru, mae cysylltu â sefydliadau a datblygiadau cymunedol eraill felly’n rhan allweddol o Charge Up Wales. Mae’r farchnad yn methu wrth ddarparu trafnidiaeth rhad a chynaliadwy i ardaloedd gwledig, ac rydym yn wynebu argyfwng hinsawdd, ac angen rhoi cymorth i bobl deithio mewn dull cynaliadwy. Bydd angen i bob car newyd ffod yn rhai trydan erbyn 2030. Bydd hyn yn helpu mynd i’r afael â phynciau fel ynysu gwledig a mynediad at wasanaethau ar gyfer pobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig ac ar incymau isel. Rhwydwaith Cymru: Ein nod yw creu rhwydwaith cydweithiol a ellir gael ei ehangu, a chreu effaith hir dymor a chynaliadwy. Drwy adeiladu gallu pobl leol a’u gwneud nhw’n rhan o rwydwaith Gymru gyfan byddwn yn eu galluogi nhw i rannu eu profiadau, dysgu o’i gilydd a chefnogi rhagor o dwf yn y maes hwn.

Y sefydliadau cymunedol a phartneriaid sy’n gwireddu’r prosiect:

Awel Care Comouk Cta Deg Ynni sir gar

Arianwyd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Cenedlaethol:

Cronfa gymunedol

Tanysgrifiwch am ein Cylchlythyr

I fod y cyntaf i glywed ein newyddion & cynigion diweddaraf, llenwch y ffurflen isod: