Ynni Cymunedol Cymru

Yr Opsiwn Cyd Berchnogaeth

Mae yna nifer o anawsterau y mae’n rhaid i gymunedau eu hwynebu wrth ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy. Gall y rhain fod yn gysylltiedig â pherchnogaeth tir a thrafod trefniadau les, cyfyngiadau cynllunio sy’n deillio o effaith ecolegol neu weledol yr hyn yr ydych yn ceisio ei wneud, neu ddiffyg cysylltiad fforddiadwy â’r grid fyddai’n eich galluogi i allforio’r pŵer yr ydych yn dymuno ei gynhyrchu. Ac mae hynny i gyd hyd yn oed cyn bod rhaid i chi geisio darbwyllo banc i roi benthyg yr arian sydd ei angen arnoch i’w osod.

Gall gymryd blynyddoedd i brosiectau droi o fod yn syniad i gael eu gwireddu, ac nid oes sicrwydd y bydd eich grŵp cymunedol brwdfrydig yn dyfalbarhau ac yn gweld eu dyheadau yn cael eu gwireddu.

Mae datblygwyr ynni adnewyddadwy masnachol yn wynebu’r un rhwystredigaeth, ond yn wahanol i gymunedau, nid yw eu hwyau hwy i gyd yn yr un fasged. Nid ydynt yn ddibynnol ar un safle, ond maent yn hytrach yn taenu’r risg drwy gael nifer o ddatblygiadau ar waith ar yr un pryd. Mae’r dull portffolio hwn yn golygu eu bod mewn gwell sefyllfa i daenu’r risg, tra bod y ffaith mai dyma yw eu gwaith bob dydd yn golygu bod ganddynt yr amser a’r capasiti i fwrw ymlaen â datblygiadau ar gyflymder fyddai’n ymddangos fel corwynt i grŵp cymunedol.

Ond credwch neu beidio, nid yw’n achos o nhw a ni. Mae cwmnïau ynni adnewyddadwy angen cymunedau, er mwyn ennyn cefnogaeth i’w cynlluniau er mwyn creu proses gynllunio fwy goddefol, ac er mwyn dangos eu bod yn cadw at eu hymrwymiadau.

Mae canllawiau diweddar gan Yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd wedi arwain at god ymarfer gwirfoddol sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddatblygiadau ynni adnewyddadwy drafod potensial cydberchnogaeth. Dyma pryd mae cymunedau’n cael cynnig bod yn rhanddeiliaid mewn datblygu cynllun masnachol. Gall hyn fod ar ffurf cyfran ganrannol yn yr incwm cyffredinol a gynhyrchir gan, dyweder fferm wynt, neu ble gellid cynnig perchnogaeth lwyr ar un neu ragor o dyrbinau’r fferm wynt i’r gymuned. Mae’n rhaid cofio y byddai’n rhaid i’r gymuned ganfod y buddsoddiad angenrheidiol i brynu eu cyfran o’r cynllun ‘cydberchnogaeth’, ond dylai arian masnachol ac arian cyfrannau ecwiti fod ar gael ar gyfer cynllun ar raddfa fasnachol, a dylai’r enillion posibl i’r gymuned fod yn sylweddol.

Er bod menter Yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd yn un newydd, mae enghreifftiau o gynlluniau cydberchnogaeth yn bodoli, yn bennaf yn Yr Alban, a bydd Ynni Cymunedol Cymru yn gweithio ag Ynni Cymunedol Yr Alban ac Ynni Cymunedol Lloegr i hyrwyddo cyfleoedd cydberchnogaeth yng Nghymru.

Am fwy o wybodaeth, ewch i dudalennau Cydberchnogaeth ar wefan benodol Cydberchnogaeth Cymunedol ar Systemau Ynni Adnewyddadwy (SCO-RES), yma.

Tanysgrifiwch am ein Cylchlythyr

I fod y cyntaf i glywed ein newyddion & cynigion diweddaraf, llenwch y ffurflen isod: