Ynni Cymunedol Cymru

Cyllid

Telerau Defnyddio

Mae yna nifer o wahanol fathau o gyllid y gall grwpiau fanteisio arnynt er mwyn cynorthwyo eu prosiectau ynni cymunedol, ond nid yw’n debygol y gall un cynnyrch ariannol ariannu costau datblygu cynllun yn gyfan gwbl. Yn gyffredinol, bydd angen i brosiectau gael mynediad i wahanol fathau o ddulliau ariannu ar wahanol adegau, ac mae angen meddwl am hyn a pharatoi ar ei gyfer yn gynnar yn y broses ddatblygu.

Pa bynnag dechnoleg y mae gennych ddiddordeb yn ei ddatblygu, y brif ystyriaeth yw p’un a yw’n ariannol hyfyw neu beidio. Mae hyn yn golygu cydbwyso costau adeiladu eich cynllun a’r incwm posibl fydd yn ei gynhyrchu yn ystod ei oes. Mae gan bob dull o gynhyrchu ynni, p’un a yw hynny’n bŵer neu’n wres, ddwy brif ffynhonnell incwm. Un yw gwerthu / allforio’r pŵer neu’r gwres a gynhyrchir yn uniongyrchol, sydd â gwerth ar y farchnad. Yr ail yw’r taliadau cymell sydd ar gael – y Tariff Cyflenwi Trydan (TCT) yn achos trydan adnewyddadwy, a’r Cymhelliad Gwres Adnewyddadwy (CGA) yn achos gwres.

Mae cyfraddau talu’r cymhellion hyn yn cael eu gosod gan Ofgem. Cymorthdaliadau neu Gymorth Gwladwriaethol ydynt mewn gwirionedd, a delir i annog datblygu cynlluniau ynni adnewyddadwy. Mae cyfraddau gwahanol yn gymwys i wahanol dechnolegau a maint y cynhyrchiant. Pan fo eich cynllun yn gymwys i dderbyn un o’r cymhellion hyn, mae’n daladwy am bris penodol (wedi ei gysylltu â chwyddiant) am bob uned o ynni a gynhyrchir, am ugain mlynedd. Yr incwm gwarantedig hwn sy’n gwneud i fuddsoddi mewn cynhyrchu ynni cymunedol fod yn werth chweil, a dyma fydd y brif ffordd o ad-dalu unrhyw gyfalaf buddsoddi a dderbyniwyd ar gyfer eich cynllun drwy fenthyciadau a chyfranddaliadau.

Ond, byddwch yn ofalus. Mae’r gyfradd o gymhwyso ar gyfer y cymhellion hyn yn gostwng fesul blwyddyn drwy broses a elwir yn ddisgyniad. Mae hyn yn golygu y bydd cynllun fydd yn derbyn TCT yfory yn cael mwy am bob uned o drydan a gynhyrchir ganddo na chynllun union yr un fath fydd yn gymwys ymhen blwyddyn. Gall disgyniad effeithio’n ddifrifol ar hyfywedd ariannol eich prosiect, felly mae angen i chi fod yn ymwybodol o ba bryd y bydd y gyfradd yn gostwng a sicrhau bod eich cynllun yn caniatáu am ostyngiadau yn y dyfodol yng nghyfradd talu’r cymhellion. Peidiwch â diystyru meithder yr amser a gymer eich cynllun i fod mewn sefyllfa i gofrestru ar gyfer y cymhellion hyn.

Pan fo’ch prosiect ynni adnewyddadwy wedi ei leoli ger, mewn neu ar ased cymunedol, cyfrifiad arall i’w ystyried yw bod yna fudd ariannol ychwanegol i’w gael o’r arbediad tanwydd sy’n deillio o weithredu eich technoleg.

Gall Adfywio Cymru gynnig cymorth Mentora Cymheiriaid i’ch helpu i edrych ar ba opsiynau all fodd yn addas i chi.

Arian Grant

Mae yna nifer o sefydliadau arian grant all gefnogi camau cychwynnol datblygu cynllun. Mae rhaglen Ynni’r Fro, a ariennir gan Ewrop, wedi gwneud llawer o waith yn y maes hwn, a disgwylir y bydd olynydd Ynni’r Fro, a rhaglen LEADER Cynllun Datblygu Gwledig Cymru, yn parhau i roi arian ar gyfer astudiaethau dichonolrwydd cychwynnol. Fodd bynnag, fel Cymorth Gwladwriaethol, mae yna oblygiadau ynghlwm â derbyn gormod o’r math hwn o arian allai rwystro cynlluniau rhag bod yn gymwys i dderbyn TCT neu CGA. Dylid gwneud y mwyaf o arian grant yng nghamau cychwynnol datblygu’r cynllun wrth brofi bod yna brosiect hyfyw yn eich ardal, gan ddefnyddio mathau eraill o gyllid os a phryd y byddwch yn symud ymlaen i ddatblygu eich cynllun.

Benthyciadau

Mae yna ddau fath o fenthyciadau sydd eu hangen ar grwpiau sy’n datblygu cynlluniau ynni cymunedol. Mae’r cyntaf yn talu am gostau datblygu eich prosiect a thalu am gostau cychwynnol mewn perthynas â chaffael caniatâd cynllunio, trafod trwyddedau a sicrhau cysylltiad â’r grid cyn eich bod mewn sefyllfa i osod eich cynllun a chynhyrchu incwm. Mae yna risg uchel i’r costau hyn, oherwydd efallai y byddwch yn methu â chael caniatâd cynllunio, neu efallai y bydd yna oedi. Felly, yn gyffredinol, dyma’r arian drytaf y bydd angen i chi ei fenthyg, a bydd lefel y risg yn cael ei adlewyrchu yn y cyfraddau llog a’r ffioedd a godir arnoch.

Mae Ynni Cymunedol Cymru, mewn cydweithrediad â Robert Owen Community Banking a Chronfa’r Loteri Fawr wedi datblygu math o ‘arian mesanîn’ ellir ei ddefnyddio i dalu am gostau datblygu cychwynnol prosiectau ynni cymunedol yng Nghymru. Gellir cael manylion am sut mae’r cyllid hwn yn gweithio ar wefan Robert Owen Community Banking .

Wedi i chi gael pob caniatâd a’ch bod yn barod i osod eich cynllun, mae’r incwm gwarantedig fydd yn ei gynhyrchu yn golygu bod ganddo’r gallu i ad-dalu ei gostau adeiladu o fewn nifer penodol o flynyddoedd. Mae hyn yn rhoi’r gallu i chi drafod benthyciadau confensiynol i dalu am y costau adeiladu, sydd fel rheol yn seiliedig ar gyfradd ganrannol flynyddol o tua 7% am gyfnod o 10 i 15 mlynedd.

Cyfranddaliadau

Yn hytrach na, neu’n ychwanegol at ecwiti ‘dyled’ benthyciad traddodiadol, efallai y gallai eich prosiect fanteisio ar werthu cyfranddaliadau yn elw’r cynllun yn y dyfodol. Mae’r rhan fwyaf o gynigion cyfranddaliadau yn denu buddsoddwyr unigol ar raddfa fechan sy’n ceisio buddsoddi mewn cynlluniau sy’n creu gwell enillion na chyfrif cynilo traddodiadol. Hefyd mae yna gymhellion treth sy’n gysylltiedig â buddsoddi mewn cwmnïau all wneud i fuddsoddiadau o’r fath fod yn ddeniadol, sy’n ychwanegol at gyfradd y difidend blynyddol a awgrymir wrth gynnig cyfranddaliadau.

Mae cynnig cyfranddaliadau yn ffordd dda o gynnwys pobl leol yn uniongyrchol ym mherchnogaeth y cynllun yr ydych wedi ei ddatblygu er lles eu cymuned. Mae bod yn berchen ar gyfranddaliad yn rhoi hawl a llais i bob cyfranddaliwr mewn perthynas â rheoli’r cwmni sy’n gweithredu’r cynllun – pob cyfranddaliad â chydraddoldeb o ran pleidleisiau, p’un a ydynt wedi prynu un cyfranddaliad yn unig neu gant. Bydd angen i chi gael cyngor yn gynnar ynglŷn â gwedd eich cwmni gweithredu os byddwch yn dymuno cynnig cyfranddaliadau.

Er bod hynny’n cael ei neilltuo ar gyfer codi arian i osod cynlluniau, gellir defnyddio cyfranddaliadau hefyd i godi’r arian sydd ei angen i gynnal datblygiad cychwynnol y prosiect. Yn amlwg, mae’r risg i arian buddsoddwyr mewn perthynas â’r cyfranddaliadau ‘arloesi’ hyn yn fwy, ac efallai y bydd angen i chi gynnig gwell buddion i fuddsoddwyr ‘cynnar’ yn ychwanegol at y difidend a gynigir pan fyddwch yn ceisio gosod eich cynllun.

Am wybodaeth am ddatblygu cynigion mewn perthynas â chyfranddaliadau, rydym yn argymell eich bod yn ymgynghori â chwmni arbenigol, megis Sharenergy.

Tanysgrifiwch am ein Cylchlythyr

I fod y cyntaf i glywed ein newyddion & cynigion diweddaraf, llenwch y ffurflen isod: