Ynni Cymunedol Cymru

Buddion Ymuno Ag YCC

Drwy ymuno ag YCC byddwch yn dod yn rhan o rwydwaith gefnogol sy’n ymdrechu i gefnogi’r twf yn y Sector Ynni Cymunedol yng Nghymru. Rydym yn annog ethos rhoi a chael sy’n golygu bod y gefnogaeth yr ydych chi’n gallu ei chynnig i aelodau eraill ac i YCC yr un mor werthfawr â’r gefnogaeth a roddir i chi gan YCC. Defnyddio’r gefnogaeth gymheiriaid hon a’r cydweithio rhwng aelodau yw’r ffordd orau o gefnogi’r Sector Ynni Cymunedol yng Nghymru.

Bydd YCC hefyd yn ganolbwynt ar gyfer yr holl newyddion diweddaraf, gwybodaeth, canllawiau a dolenni mewn perthynas â materion ynni cymunedol, ac maent yn cynnwys y canlynol:

Buddion Aelodaeth

  • Proffil ar Wefan Ynni Cymunedol Cymru
  • Cyfle i hyrwyddo newyddion, digwyddiadau a chyfleoedd perthnasol
  • Dolenni at gyngor, cefnogaeth, ymchwili a chanllawiau diweddaraf perthnasol
  • Mynediad i’r wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd ariannu
  • Mynediad i’r holl wybodaeth ar-lein a bwletinau rheolaidd
  • Mynediad i rwydwaith o aelodau ac ymarferwyr ynni cymunedol
  • Gwahoddiad i’r holl ddigwyddiadau a chynadleddau
  • Cyfraddau gostyngedig i holl ddigwyddiadau a chynadleddau YCC
  • Mynediad i becynnau ac adnoddau perthnasol
  • Cyfleoedd i rwydweithio â chymheiriaid ar draws Cymru
  • Cyfle i rannu arferion gorau a gwybodaeth
  • Cyfle i ddylanwadu ar bolisïau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol
  • Mynediad i gronfa ddata o arbenigwyr
  • Enghreifftiau o fathau o strwythurau cyfreithiol a ddefnyddir gan Fentrau Ynni Cymunedol
  • Cyfle i fod yn rhan o ymchwil yn y dyfodol
  • Gwahoddiad i’r Cyfarfod Blynyddol a hawliau pleidleisio
  • Cyfle i gymryd rhan mewn Grwpiau Strategol YCC

Tanysgrifiwch am ein Cylchlythyr

I fod y cyntaf i glywed ein newyddion & cynigion diweddaraf, llenwch y ffurflen isod: