Mae newid yn yr hinsawdd yn fygythiad mawr i ddynoliaeth, mae biliau tanwydd yn parhau i godi ac mae ein dibyniaeth ar ynni a fewnforir yn parhau i dyfu. Mae’r DU wedi ymrwymo i sicrhau gostyngiad o 80 y cant mewn allyriadau carbon erbyn 2050. Er mwyn mynd i’r afael â’r heriau hyn, mae angen i ni i gyd leihau ein defnydd o ynni a chyflymu symudiad i ffyrdd o fyw carbon isel cynaliadwy.
Rydym yn sefydliad blaenllaw y gellir ymddiried ynddo sy’n helpu pobl i arbed ynni bob dydd. Mae ein harbenigwyr yn siarad â miliynau o ddeiliaid tai bob blwyddyn, yn cyflwyno rhaglenni o’r radd flaenaf i lywodraethau ac yn darparu ymgynghoriaeth i fusnesau yn y DU a chwmnïau rhyngwladol. Mae popeth a wnawn yn cael ei danategu gan ein hymchwil arloesol fyd-enwog.
Rydyn ni’n annibynnol ac yn ddiduedd felly mae’r cyngor rydyn ni’n ei roi yn ymwneud â’ch helpu chi.
I fod y cyntaf i glywed ein newyddion & cynigion diweddaraf, llenwch y ffurflen isod: